Llys y Goron yr Wyddgrug
Mae dynes wedi ei chael yn ddieuog heddiw achosi marwolaeth ei mab 11 oed drwy yrru yn ddiofal.

Roedd Karen Evans, 36 oed, wedi croesi o’r ail lôn i slipffordd ar yr A55 ond collodd reolaeth o’i char.

Fe fu farw ei mab awtistaidd Jordan yn syth yn dilyn y gwrthdrawiad ac fe ddioddefodd Karen Evans a’i merched tair a 19 oed anafiadau difrifol, clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug.

Dywedodd erlynydd bod y damwain wedi digwydd oherwydd bod Karen Evans “ar frys” ond roedd hi’n honni bod rhywbeth o’i le ag olwyn y car.

Codi cwestiynau

Cyn dechrau’r achos llys ddydd Llun, roedd yr Ustus Peter Heywood wedi gofyn a oedd gorfodi mam i ail-fyw marwolaeth ei mab o fudd i’r cyhoedd.

“Beth bynnag canlyniad yr achos llys, fe fydd hi’n dioddef am weddill ei bywyd,” meddai.

“Rhaid i’r erlynyddion ystyried a ydi hyn o fudd i’r cyhoedd.”

Ar ôl i Karen Evans gael ei rhyddhau heddiw, dywedodd yr ustus ei fod yn “cytuno’n gyfan gwbl” â phenderfyniad y rheithgor.

“Mae wedi bod yn brofiad ofnadwy iddi – colli mab ac wedyn gorfod mynd drwy achos llys.”

Yr wrthdrawiad

Digwyddodd yr wrthdrawiad ar yr A55 ger Llaneurgain yn Sir y Fflint ar 29 Ebrill y llynedd.

Roedd Jordan wedi methu a dal ei fws yn fwriadol am nad oedd o eisiau mynd i’r ysgol y diwrnod hwnnw.

Penderfynodd Karen Evans ei yrru i’r ysgol o’u cartref yn Mancot yn fuan ar ôl 9am.

Roedd Levi-Marie, 18, ar ei ffordd i’r coleg a Lilly-May, tair oed, yn y sedd plentyn wrth ymyl Jordan.

Honnodd yr erlynydd Oliver King bod Karen Evans “ar frys ac eisiau petrol” pan benderfynodd hi “yn rhy gyflym ac yn rhy hwyr” i fynd i fyny’r slipffordd.

Ond roedd Karen Evans yn honni mai problem ag olwyn y car oedd yn gyfrifol am ei phenderfyniad i adael y ffordd.

Taflwyd y car i mewn i’r awyr ac fe fu farw Jordan, disgybl yn Ysgol Uwchradd Syr Richard Gwyn, o ganlyniad i ergyd i’w ben.

Roedd archwiliad fforensig ar y car yn dangos fod bollt yn rhydd yn y llyw.

‘Poen’

Mewn datganiad dywedodd Karen Evans bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un “o boen mawr”.

“Rydw i’n deall pam bod angen ymchwilio i’r ddamwain laddodd fy mab Jordan, ond dydw i erioed wedi deall pam bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi mynnu fy erlyn,” meddai.

“Roeddwn i wedi gofyn i’r rheithgor fy nghael i’n ddieuog ar sail y dystiolaeth, nid ar sail trugaredd. Heddiw maen nhw wedi gwneud hynny ac rydw i’n ddiolchgar.”