Ruth Jones a James Corden yn Gavin & Stacey
Mae Ruth Jones, awdures a seren y gyfres gomedi boblogaidd Gavin & Stacey, wedi awgrymu y gallai’r gyfres gael ei throi yn  ffilm.

Daeth y gyfres gomedi, a grëwyd gan Ruth Jones a James Corden , i ben yn 2010 ond meddai Ruth Jones wrth y Radio Times y byddai’n “bendant” yn gweithio gyda James Corden eto.

Awgrymodd y gallai’r comedi, a oedd hefyd yn cynnwys Mathew Horne, Joanna Page, Larry Lamb ac Alison Steadman, ddychwelyd am un bennod arbennig ar y teledu neu hyd yn oed ffilm.

“Does dim cynlluniau pendant ond mi fydd ar ryw adeg,” meddai Ruth Jones.