Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau fod dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar yn y Wyddgrug ddoe.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Rover coch a Ford Fiesta glas ar King Street, Yr Wyddgrug am 21.05.

Mae perthnasau agosaf y dyn wedi cael gwybod.

Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth am beth ddigwyddodd gysylltu â’r Heddlu ar 0845 607 1002.