Tŷ'r Arglwyddi - ail siambr Senedd San Steffan
Mae angen ail siambr ar y Cynulliad os ydi’r refferendwm ar bwerau deddfu cynradd heddiw yn llwyddiannus, yn ôl Ceidwadwr.

Dywedodd ymgeisydd y Ceidwadwyr yn Nwyrain Abertawe,  Dan Boucher, bod angen ail siambr er mwyn archwilio’r deddfau fydd yn cael eu creu gan y Cynulliad.

Byddai aelodau o Gymru yn Nhŷ’r Arglwyddi yn gallu cyflawni’r gwaith, meddai wrth bapur newydd y Western Mail.

“Does dim angen i’r ail siambr fod yn fawr. Ni fyddai angen adeilad newydd arno na chwaith costau i’r aelodau,” meddai Dan Boucher.

“Un ffordd hawdd a cyflym o greu ail siambr fyddai penodi pob arglwydd o Gymru i’r siambr a chreu mecanwaith ar gyfer apwyntio aelodau newydd.

“Fe fyddai’n braf petai’r ail siambr yn gallu cwrdd yng Nghaerdydd ond fe allen nhw gwrdd mewn ystafell ym mhalas San Steffan o dro i dro.

“Dyw’r diffyg archwilio ym Mae Caerdydd ddim wedi bod yn broblem nes nawr, ond os ydi Cymru’n pleidleisio ‘Ie’ mae angen mynd i’r afael â’r mater ar fyrder.”

Does gan Senedd yr Alban na chwaith Cynulliad Iwerddon ail siambrau, er bod ganddynt hwythau’r grym i greu deddfau.