Rhodri Morgan
Mae cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, wedi dweud y byddai pleidlais ‘Ie’ heddiw yn ddiweddglo perffaith i’w yrfa gwleidyddol.
Fe fydd yn ymddeol ar 31 Mawrth, wrth i ymgyrch Etholiadau’r Cynulliad ddechrau.
Roedd arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru allan yn pleidleisio ymysg gweddill yr etholwyr heddiw.
Cyrhaeddodd arweinydd y Ceidwadwyr, Nick Bourne, neuadd dinas Caerdydd i fwrw ei bleidlais am 9.30am.
Roedd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi pleidleisio yn Eglwys Cyngar Sant, Llangefni, am 10.45am.
Dywedodd Rhodri Morgan ei fod yn weddol obeithiol y byddai ‘Ie’ yn mynd a hi.
“Fe bleidleisiais i am 9.15am y bore ma yn Llanfihangel-y-pwll ym Mro Morgannwg, taith 10 munud i’r Senedd,” meddai.
“Roeddwn i’n hapus bod nifer y pleidleiswyr i weld yn eithaf iach – sy’n arwydd da.
“Dw i’n dawel hyderus ynglŷn â’r canlyniad. Os ydyn ni’n cael pleidlais ‘Ie’ fel y mae’r bwcis yn ei awgrymu fe fyddai’n dangos fod Cymru yn wlad sydd wedi tyfu i fyny.
“Dyna fyddai’r nodyn orau posib i mi ymddeol arno.”