Ysbyty Llandoche, Penarth
Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi gofyn i ymwelwyr ag ysbyty i gadw draw – oherwydd bod achosion o Norofeirws wedi’u cadarnhau yno.

Y cais yw i ymwelwyr beidio a dod i Ysbyty’r Brifysgol, Llandoche, ym Mhenarth, oni bai ei bod hi’n hanfodol.

Mae’r cais yn berthnasol “am yr wythnosau nesaf”meddai’r Bwrdd Iechyd.

Yn ol y Bwrdd, mae’r feirws, sy’n effeithio ar y stumog ac yn gwneud i ddioddefwyr gyfogi, wedi effeithio ar “nifer o gleifion” ar ddwy ward yn yr ysbyty.