Castell Harlech
Mae archeolegwyr wedi dod o hyd i weddillion wyth corff ger Castell Harlech, a allai fod yn bobol o’r Canol Oesoedd.

Fe fu archeolegwyr o Archeoleg Cymru yn cloddio yn y tir gyferbyn â Gwesty’r Castell gan ddod o hyd i gyrff dynol, sylfeini adeiladau a charthbwll –  awgrym fod hen gymuned wedi bod yno unwaith.

Yn ôl y gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Cadw, roedd yna dystiolaeth cyn hyn credu fod capel wedi ei adeiladu ger y castell yn y Canol Oesoedd, a bod darganfod yr adeiladau yma yn cefnogi hynny.

Roedd y castell yn nwylo Owain Glyndŵr am gyfnod rhwng 1404 ac 1409 ond does dim gwybodaeth eto ai dyna gyfnod y cyrff.

Mae’r cloddio’n digwydd wrth i Cadw wella’u cyfleusterau yn y safle ac o’i gwmpas.

‘Cyffrous’

“Mae hi’n gyffrous iawn cael cyfle i archwilio o fewn y dref hanesyddol yma,” meddai Dr Kate Roberts Uwch Arolygydd Henebion ac Archeoleg Cadw.

“Mae llawer o waith eto i’w wneud ond mi fyddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth gan yr archeolegwyr i gefnogi ein dehongliad a’n cyflwyniad newydd o Gastell Harlech.”

Mae’r castell yng ngofal Cadw ac yn rhan o un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO.

Canolfan newydd

Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio gyda Cadw i ddatblygu datblygu canolfan ymwelwyr newydd yng Ngwesty’r Castell, Harlech. Mae £450,000 wedi ei roi gan Cyngor Gwynedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gyflawni ‘r prosiect.