Gwir Gymru
Mae dyn busnes o gymoedd y de wedi goresgyn llawdriniaeth ddifrifol ar y galon er mwyn dod yn un o brif leisiau’r ymgyrch ‘Na’ yn refferendwm Mawrth 3.

Ac yn ôl Nigel Bull, sydd wedi gweithio’n helaeth ym myd diwydiant, diffyg ôl chwys yn y byd gwaith yw un o brif wendidau’r Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd.

“A ydyn nhw wedi gorfod glanhau eu dwylo ar ôl diwrnod o waith? Mae’r lle’n llawn o weithwyr cymdeithasol ac ymgynghorwyr,” meddai.

“Y bobol fwyaf ‘real’ sydd yno yw athrawon. A’r realiti wedyn yw bod athrawon wedi mynd i’r ysgol, mynd i’r coleg, cyn dychwelyd i’r ysgol.

“Nid dyna’r byd go iawn. Dydyn nhw ddim yn gwybod am ddelio gyda chyfrifon, cynhyrchu cydrannau, problemau llif arian, problemau gydag undebau, problemau gyda chyflenwyr, problemau gyda systemau cyflogaeth a phroblemau gyda banciau.

“Does ganddyn nhw ddim profiad o’r byd. Ddaethon nhw i’r swydd trwy ddringo polyn llithrig y pleidiau. Nid dyna’r safon o bobol sydd ei hangen arnom.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 3 Mawrth