Fe allai cyfryngau Cymru fod wedi gwneud mwy o raglenni yn trafod y refferendwm, yn ôl Cadeirydd Ceredigion yr Ymgyrch ‘Ie’ o blaid mwy o bŵer i’r Cynulliad.

“Dydyn ni heb glywed llawer, ac mae hynny’n drueni.” meddai Lisa Francis. “Fe all y teledu fod wedi gwneud mwy. Nid yw pobol wedi cael gwybodaeth ddigonol.”

Yn ôl y cyn Aelod Cynulliad Ceidwadol, mae’r ymgyrchwyr ‘Na’ yn bobol sydd yn “casáu democratiaeth”.

“Maen nhw’n casáu democratiaeth yn waeth na maen nhw’n casáu unrhyw fater gwleidyddol penodol,” meddai.

“Maen nhw wedi hybu chwedlau ein bod ni’n mynd i gael annibyniaeth i Gymru, pwerau codi treth, neu gynnydd mawr mewn Aelodau Cynulliad.

“Rwyf wedi clywed un si bod ymgyrchwyr ‘Na’ yn dweud y bydd pobol yn cael eu gorfodi i ddysgu Cymraeg. Os yw hynny’n wir, mae hynny’n fy nhristau, gan fod hynny’n sarhad ar ddealltwriaeth pobol.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 3 Mawrth