Perdysen farwol
Mae brwydr wedi dechrau mewn dau le yng Nghymru yn erbyn perdys ‘marwol’ – math o shrimp tramor sy’n cael y bai am ladd perdys brodorol a rhai mathau o bryfed hefyd.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r dieithryn y llynedd ym Mae Caerdydd a llyn Eglwys Nunydd ar fin traffordd yr M4 ym Mhort Talbot ac mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi dechrau ar gyrch i’w ddifa.

Eisoes, roedd pobol sy’n defnyddio’r ddwy lain o ddŵr wedi cael rhybudd i lanhau eu cychod a’u hoffer pysgota’n drylwyr ac yn awr mae trapiau’n cael eu gosod i geisio dal y perdys.

Gosod trapiau

Mae bwyd cath a bwyd pysgod ymhlith yr abwyd sy’n cael ei ddefnyddio i geisio dal y perdys, sy’n fwy na rhai brodorol a hefyd yn bwyta trychfilod fel mursennod (damsel flies) a chychwyr – y pryfed bach sydd fel petaen nhw’n cerdded ar wyneb y dŵr.

Mae 100 o’r trapiau’n cael eu gosod yn y Bae a’r llyn ac mewn llynnoedd ac afonydd eraill yng Nghymru a Lloegr lle mae peryg iddyn nhw ymddangos.

Mae’r rheiny’n cynnwys llefydd sy’n cynnig amodau da i’r cramenogyn bach, neu’n bwysig o ran chwaraeon dŵr neu warchodaeth.

Sefydlu gweithgor

Roedd y perdys wedi eu gweld i ddechrau yn Grafham Water ger Caergrawnt yn yr hydref ac, o fewn wythnosau, roedd wedi ymddangos yn y ddau safle yng Nghymru.

Fe gafodd gweithgor ei sefydlu i geisio’i atal – mae’r bygythiad gan rywogaethau tramor yn cael ei gymryd o ddifri gan y gallan nhw wneud drwg mawr i fywyd gwyllt brodorol.

Mae achosion o chwistrelli dŵr tramor wedi bod yng Nghaergybi ac mae planhigion fel rhododendron a llysiau’r dial – neu canclwm Japan – yn enghreifftiau eraill o’r broblem.