Cymdeithas yr Iaith yn protestio tros S4C (llun y Gymdeithas)
Fe fydd nifer o fudiadau’n dod at ei gilydd i greu corff ymbarél newydd i geisio “achub” S4C.

Wrth i’r cyfweliadau gael eu cynnal heddiw i ddewis Cadeirydd newydd i Awdurdod y sianel, fe ddaeth y newydd am y glymblaid newydd.

Fe fydd cynhadledd i’r wasg yn cael ei chynnal ddydd Llun i lansio dogfen ymgynghorol sydd wedi cael ei rhoi at ei gilydd gan y gwahanol fudiadau.

Mae’r rheiny’n cynnwys Cymdeithas yr Iaith, Mudiadau Dathlu’r Gymraeg a rhai o’r undebau sy’n gweithio ym maes darlledu – undeb y newyddiadurwyr, yr NUJ; undeb y gweithwyr darlledu, BECTU, ac Urdd yr Ysgrifenwyr.

Bwriad y ddogfen yw cynnig “gweledigaeth newydd” ar gyfer y sianel yn wyneb y bwriad i dorri hyd at 25% o’i harian – tua 40% ac ystyried chwyddiant – a’i rhoi dan adain y BBC.

Fe fydd y gynhadledd i’r wasg yn cael ei chynnal yn adeilad y Senedd yng Nghaerdydd.