Y Cae Ras (o wefan y clwb)
Mae grŵp o gefnogwyr clwb pêl-droed Wrecsam wedi dod gam yn nes at brynu’r clwb a stadiwm y Cae Ras.

Ac mae’n ymddangos y gallai’r penderfyniad terfynol gael ei gyhoeddi ddydd Sadwrn – mae yna un cynnig arall ar y bwrdd.

Mewn cyfarfod ddoe gydag Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr a Chyngor Sir Wrecsam, fe gytunodd y perchnogion presennol y bydden nhw’n fodlon gwerthu’r clwb i’r Ymddiriedolaeth.

Maen nhw’n cynnal astudiaeth i’r cefndir ariannol ac fe fydd casgliadau hwnnw’n cael ei rannu gyda’r Ymddiriedolaeth.

Yn ôl y perchnogion, Georff Moss ac Ian Roberts, fe fydden nhw’n fodlon derbyn cynnig gan yr Ymddiriedolaeth.

Y cynnig arall

Ond mae gwraig fusnes leol, Stephanie Booth, yn arwain consortiwm arall a hi sydd wedi awgrymu y bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi cyn gêm Wrecsam ddydd Sadwrn.

Mae’r Cyngor hefyd wedi dweud eu bod nhw’n fodlon parhau i gefnogi trafodaethau er mwyn hwyluso’r gwaith o sicrhau dyfodol y clwb.

Yn eu datganiad ar y cyd ar ôl y cyfarfod ddoe, roedden nhw, yr Ymddiriedolaeth a’r perchnogion yn dweud eu bod yn gytûn bod angen diogelu’r Cae Ras yn brif stadiwm chwaraeon gogledd Cymru.

Y disgwyl yw y bydd yr Ymddiriedolaeth yn gwneud cais gwerth mwy na miliwn o bunnau am y cae, y clwb a’r maes ymarfer.