Mae pleidleisio wedi dechrau ynglŷn â’r cam nesa’ mewn datganoli yng Nghymru.
Roedd mwy na 2,500 o fythau’n agor am saith o’r gloch y bore gyda chyfle i 2,289,042 o bobol ddweud a ydyn nhw eisiau cryfhau pwerau deddfu’r Cynulliad.
Fe orffennodd yr ymgyrch gyda’r garfan Ie’n apelio ar i bobol fynd allan i bleidleisio – mae tri phôl piniwn diweddar wedi dangos eu bod ymhell ar y blaen, ond fe allai lefel y bleidlais fod yn isel.
Yn ôl y Comisiwn Etholiadol, fe allai cymaint â 372,586 o bobol fod yn pleidleisio trwy’r post, gyda’r canlyniad yn cael ei gyhoeddi fesul sir yn ystod y dydd fory.
Mae disgwyl y canlyniad terfynol tuag amser cinio.
Y cwestiwn
Fe fydd y bleidlais yn penderfynu sut y bydd y Cynulliad yn gwneud deddfau yn y dyfodol.
• Fe fyddai pleidlais Ie’n golygu bod ganddo hawl i benderfynu ar ei liwt ei hun i greu deddfau yn yr 20 maes sydd wedi eu datganoli.
• Fe fyddai pleidlais Na’n golygu aros gyda’r drefn bresennol, a’r Cynulliad yn gorfod cael cydsyniad Ysgrifennydd Cymru a dau dŷ’r Senedd yn San Steffan cyn cael gwneud deddf benodol.
Dim arian cyhoeddus
Does dim arian cyhoeddus wedi ei ddefnyddio i gefnogi’r ymgyrchoedd o blaid ac yn erbyn ar ôl i’r prif wrthwynebwyr, carfan Gwir Gymru, benderfynu peidio â chofrestru.
Am nad oedd modd rhoi arian i’r ddwy ochr, doedd dim cymhorthdal cyhoeddus ar gael i’r ymgyrch Ie chwaith.
O ganlyniad, cymharol dawel oedd yr ymgyrchu, gan gynyddu’r pryder am lefel y bleidlais.
Y dadleuon
Yn fras, roedd gan y ddwy ochr dair prif ddadl:
• Yr ymgyrch Ie’n pwysleisio bod y drefn bresennol yn araf a chymhleth, bod angen i Gymru gael y cyfrifoldeb am ei dyfodol ei hun ac y byddai pleidlais Na’n rhoi neges wael i weddill y byd.Mae Gwir Gymru wedi codi amheuon a yw’r Cynulliad yn aeddfed a digon galluog i gymryd y cyfrifoldeb, nad yw wedi gwneud yn ddigon da gyda’i rymoedd presennol a bod hwn yn gam arall tuag at annibyniaeth.
• Mae Gwir Gymru wedi codi amheuon a yw’r Cynulliad yn aeddfed a digon galluog i gymryd y cyfrifoldeb, nad yw wedi gwneud yn ddigon da gyda’i rymoedd presennol a bod hwn yn gam arall tuag at annibyniaeth.