Un nos ola leuad yn Yr Ardd Fotaneg
Mae’r Ardd Fotaneg Genedlaethol wedi ennill statws Lleoliad Ddarganfod Ffurfafen Dywyll – yr ardd fotaneg gyntaf ym Mhrydain i ennill yr anrhydedd hwn sy’n cydnabod bod y safle yn le delfrydol i syllu ar y sêr heb fod golau artiffisial yn tarfu ar yr olygfa naturiol.
Daw’r anrhydedd yn gydnabyddiaeth swyddogol gan bartneriaeth Darganfod y Ffurfafen Dywyll o ba mor dda yw ansawdd ffurfafen y nos dros yr ardd yn Llanarthne.
Mae’r ardd yn un o 25 o safleoedd swyddogol ‘ffurfafen dywyll’ sydd wedi cael eu henwi’r wythnos hon ar gychwyn Wythnos Syllu ar y Sêr y BBC sydd ddydd Mawrth nesaf.
Meddai Dan Hillier o Bartneriaeth Ddarganfod y Ffurfafen Dywyll: “Llongyfarchiadau i bawb – yr unigolion a’r mudiadau – sydd wedi bod yn ymwneud â chreu ein lleoliad newydd Darganfod Ffurfafen Dywyll. Gobeithiaf yn wir y bydd yn galluogi mwy fyth o bobl i gael eu hysbrydoli gan eich golygfeydd lleol o’r bydysawd.”
Dywedodd Colin Miles, gwirfoddolwr yn yr Ardd ac aelod o Bwyllgor Cymdeithas Seryddol Abertawe, sy’n cynnal digwyddiadau seryddol rheolaidd yn yr ardd: “Dyma newyddion rhagorol. Mae’r ardd yn lle delfrydol ar gyfer seryddiaeth, a byddwn yn parhau i gynnal digwyddiadau rheolaidd yno er mwyn ceisio dod â phobl yn agosach at y sêr.”
Daw’r digwyddiad seryddol nesaf yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol ar Ddydd Gwener, Chwefror 7, pan fydd ymwelwyr yn cael y cyfle i weld y Lleuad, y blaned Iau, Nifwl Orïon.
Mae’r tâl mynediad yn £3, ac yn rhad ac am ddim i rai dan 16 oed.