Mae cynllun dadleuol gan gwmni o dde Cymru i ddrilio am nwy mewn carreg siâl ym Mro Morgannwg wedi cynddeiriogi ymgyrchwyr amgylcheddol Cymru.
Mae cwmni Coastal Oil and Gas Limited yn gobeithio drilio drwy galchfaen siâl “gyda’r gobaith o ddal a darparu nwy siâl er mwyn darparu egni glân”.
Maen nhw’n addo “creu ffynhonnell egni hirdymor sy’n lân ac yn lleol,” a fyddai’n torri’r ddibyniaeth ar nwy o Rwsia a gwledydd y Gwlff.
Ond mae’r cynllun yn pryderu rhai sy’n credu y gallai’r gwaith o ddrilio drwy’r garreg lygru systemau dŵr cyfagos.
Mae’r Blaid Werdd wedi galw am wrthod cais cynllunio cynllun, gan ddweud eu bod angen gwaith ymchwil pellach i sgìl effeithiau’r drilio.
Dywedodd Jake Griffiths, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, ei fod e’n “bryderus iawn” am yr effeithiau posib ar iechyd pobl a’r amgylchedd.
“Byddai’n hollol ffôl i ganiatáu’r math hwn o dyrchu i ddatblygu, yn enwedig o ystyried y perygl posib, heb i ragor o ymchwil gael ei gynnal,” meddai.
Byddai’r cwmni yn pwmpio dŵr, wedi ei gymysgu â chemegau a thywod, yn gyflym iawn i mewn i’r ddaear er mwyn torri’r calchfaen siâl a rhyddhau’r pocedi o nwy.
Bydd y dŵr sy’n wastraff ar ddiwedd y broses yn dal i gynnwys y cemegau hyn – sydd, yn ôl ymgyrchwyr, yn creu problem amgylcheddol fawr.
Heb ddull o burhau’r dŵr, mae rhai yn pryderu y gallai’r cemegau gyrraedd dŵr yfed yn y pen draw.