Mae'r BBC yn chwilio am olynydd i Menna Richards
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi dweud eu bod nhw yn pryderu fod y BBC yn diystyru’r Gymraeg wrth chwilio am gyfarwyddwr newydd i arwain BBC Cymru.

Dywedodd y Bwrdd eu bod nhw wedi cysylltu’n gyson â’r BBC ers i Menna Richards  gyhoeddi ei hymddeoliad  ym mis Tachwedd.

Roedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi “gofyn iddynt sicrhau fod y gallu i siarad Cymraeg yn ofyniad hanfodol wrth recriwtio olynydd”.

Cadarnhaodd y BBC yr wythnos diwethaf nad oedden nhw’n gallu penodi’r un o’r ymgeiswyr gwreiddiol ar gyfer swydd cyfarwyddwr BBC Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran y gorfforaeth ar y pryd eu bod nhw’n bwriadu parhau i chwilio hyd nes eu bod nhw’n dod o hyd i’r person cywir.

Ond mae Bwrdd yr Iaith wedi beirniadu penderfyniad y gorfforaeth i ddweud mai dim ond ‘dymunol iawn’ oedd y gallu i siarad Cymraeg wrth hysbysebu’r swydd.

“Fe ysgrifennodd y Bwrdd eto at Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Mark Thompson, yn ei atgoffa am bwysigrwydd penodi Cyfarwyddwr Cymru sy’n rhugl ddwyieithog,” meddai llefarydd ar ran y Bwrdd.

“Yn yr un llythyr, cynghorodd y Bwrdd, pe bai Cyfarwyddwr nad yw’n ddwyieithog yn cael ei benodi, y dylai’r BBC sicrhau y byddai’n ofyniad contract i’r Cyfarwyddwr newydd ddilyn gwersi er mwyn dod yn rhugl yn yr iaith.

“Gwrthododd Mark Thompson wneud hynny.”

‘Synnu’

“Mae BBC Cymru yn sefydliad dwyieithog sy’n cynhyrchu rhaglenni – a llu o wasanaethau eraill – trwy gyfrwng y ddwy iaith,” meddai Cadeirydd y Bwrdd, Meri Huws.

“Mae’n fy synnu i nad yw’r BBC yn ei hystyried hi’n hanfodol i’r Cyfarwyddwr sydd â chyfrifoldeb dros yr holl wasanaethau hyn allu deall eu cynnwys.

“Gan i’r BBC fethu â phenodi hyd yn hyn, hoffwn eu hatgoffa o ymrwymiad pendant eu cynllun iaith statudol i  drin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal.

“Hyd yma yn y broses recriwtio, mae’r Gymraeg wedi cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg, ac nid yw hyn yn foddhaol o gwbl.”