Ffion Wyn Roberts
Cafodd merch ifanc ei churo, ei thagu, a’i gadael i foddi mewn ffos wrth iddi gerdded adref ar ôl noson allan â theulu a ffrindiau, clywodd llys heddiw.

Ymosodwyd ar Ffion Wyn Roberts, 22, pellter byr o’i chartref ym Mhorthmadog, clywodd Llys y Goron Caernarfon.

Mae Iestyn Davies, 54, gweithiwr ffatri o’r un dref, yn gwadu ei llofruddio hi.

Dywedodd yr erlynydd, Elwen Evans QC, wrth y rheithgor bod y dystiolaeth camera cylch cyfyng a DNA yn erbyn Iestyn Davies yn “llethol”.

“Ymosodwyd ar Ffion – cafodd ei thagu, a’i boddi mewn ffos draenio dŵr.

“Does yna ddim esboniad am beth ddigwyddodd. Dyw Ffion ddim yn gallu dweud wrthon ni a dyw’r diffynnydd ddim yn fodlon gwneud.

“Ond mae’r achos yn erbyn y diffynnydd yn llethol. Mae yna dystiolaeth yn ei gysylltu â’r cwlwm a ddefnyddiwyd i dagu Ffion, a’r rhwygiadau yn ei dillad.”

Y cefndir

Cafodd Ffion Wyn Roberts, oedd yn ofalwr, ei lladd yn oriau man y bore ddydd Sadwrn, 10 Ebrill, y llynedd.

Treuliodd brynhawn dydd Gwener yn yfed mewn tafarn lleol gyda’i rheini cyn ymuno gyda ffrindiau ar ôl iddyn nhw fynd adref.

Gadawodd tafarn yr Union ym mhentref Tremadog yng nghwmni ei ffrindiau tua 3.30am y bore canlynol.

Cerddodd yn ôl ar ei phen ei hun ar y brif ffordd i Borthmadog, meddai Elwen Evans.

Dangosodd delweddau camera cylch cyfyng ei bod hi wedi cyrraedd y dref ac yn agosáu at adref. Cafodd ei gweld ar gamera yn fyw am y tro olaf am 4.26am wrth iddi gyrraedd Stryd Madog.

Daethpwyd o hyd i’w chorff mewn ffos o’r enw Y Cyt yn hwyrach y diwrnod hwnnw.

Roedd ganddi gleisiau i’w hwyneb a’i chorff ac roedd ei dillad isaf wedi eu tynnu a’u troi, meddai’r erlynydd.

Yn ôl archwiliad post-mortem mae’n debygol ei bod hi’n yn dal yn fyw pan gafodd hi ei gosod yn y dŵr a boddi.

Taflu dillad

Dywedodd yr erlynydd fod Ffion Wyn Roberts wedi ei gadael yn ymwybodol yn y ffos ar ôl cael ei thagu â rhan o’i sgarff ei hun. Cafodd y gweddill ei orfodi i mewn i’w cheg.

Daethpwyd o hyd i’w chorff wyneb i lawr yn y dŵr gan gwpwl oedd yn chwilio am gath goll tua 1.15pm y prynhawn hwnnw.

Eisteddodd ei mam, Bethan, yn y galeri cyhoeddus gyda’i gŵr Idris yn wylo wrth i’r erlynydd ddatgelu eiliadau olaf erchyll eu merch.

Gwrandodd Iestyn Davies ar gyfieithiad Cymraeg o’r dystiolaeth drwy glustffonau wrth i’r achos fynd yn ei flaen.

Dywedodd yr erlynydd ei fod wedi ei weld ar gamera cylch cyfyng yn ystod oriau man y bore.

Roedd y diffynnydd yn mynd a’i gi am dro ac yn gwisgo trowsus tracwisg a trainers. Daethpwyd o hyd iddynt yn ddiweddarach â bag llaw Ffion Roberts.

Giât llanw

“Am 4.27am rydyn ni’n gweld Ffion yn troi o’r Stryd Fawr,” meddai Elwen Evans.

“Nesaf rydyn ni’n gweld y diffynnydd am 5.09am yn cyrraedd y Stryd Fawr.

“Y gwirionedd trist yw bod Ffion wedi ei thagu a’i boddi yn ystod y cyfnod byr hwnnw.

“Ar ôl lladd Ffion fe aeth y diffynnydd yn ôl i’w fflat a newid rhywfaint o’i ddillad a cheisio dinistrio’r dystiolaeth.”

Dywedodd fod Iestyn Davies wedi ceisio taflu ei drowsus tracwisg, ei trainers, a bag llaw Ffion dros giât llanw.

“Ond fe aeth ambell un o’r eitemau yn sownd ym mecanwaith y giât – un trainer, trowsus tracwisg a bag Ffion.

“Mae delweddau camera cylch cyfyng yn dangos Iestyn Davies cyn y llofruddiaeth, beth oedd yn ei wisgo, ac ar ôl cael gwared ar y dillad a’r bag llaw.”

Ychwanegodd fod DNA ar yr eitemau ac ar y sgarff a ddefnyddiwyd i ladd Ffion Roberts yn cyd-fynd yn rhannol â DNA Iestyn Davies.