RSS

Golwg360

MwyCau 

Llywydd yr Annibynwyr yn rhybuddio rhag “toriadau creulon”

Ionawr 1, 2014 12:19


Parchedig Ronald Williams, Llywydd Undeb yr Annibynwyr
Bydd toriadau o bron i £600m mewn budd-daliadau yng Nghymru yn ergyd greulon i tua miliwn o bobl sy’n sâl, yn ddi-waith neu ar incwm isel, rhybuddiodd un o arweinwyr Cristnogol Cymru yn ei neges Blwyddyn Newydd.

Bydd mwy o alw ar fudiadau gwirfoddol, eglwysi ac elusennau i helpu’r sawl sydd mewn angen, meddai’r Parchg Ron Williams, Llwydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

“Eleni, bydd anogaeth Iesu am i ni drin eraill fel y byddem ninnau am gael ein trin mor berthnasol ag erioed,” meddai.

“Nid lleiafrif bach fydd yn ddioddef, mae’n debyg y bydd tua miliwn o bobl Cymru yn gweld gostyngiad yn eu hincwm oherwydd y newidiadau mewn Budd-daliadau a Chredyd Treth Gwaith wrth i’r drefn newydd ddod i rym o ddifri. Dyma unigolion a theuluoedd sydd eisoes yn ymdrechu i gael dau ben llinyn ynghyd.

“Ar ben hyn, ofnir y gallai’r toriadau llym mewn gwariant gan Gynghorau Sir effeithio’n andwyol ar y gofal sydd ei angen ar bobl oedrannus a bregus. Yn y fath hinsawdd, bydd angen rhoi sylw arbennig i’r sawl sydd mewn argyfwng.

“Yn aml, mae tueddiad anffodus i fychanu’r tlawd a’r anghenus. Rhaid dangos parch a bod yn barod i wrando ar eu cri.  Ond bydd angen gweithredu hefyd i’w helpu mewn ffyrdd ymarferol trwy waith yr eglwysi ac elusennau eraill.

“Does dim dwywaith y bydd baich sylweddol fwy yn syrthio ar ysgwyddau mudiadau gwirfoddol eleni ac am flynyddoedd i ddod. Fel Cristnogion, rhaid i ni godi i’r her o wneud gwaith Crist yn ein cymunedau heddiw trwy rym ei Ysbryd ef.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y ddolen ’Nodi camddefnydd’ sy’n ymddangos wrth ymyl pob sylwad. Os bydd dau berson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.


Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.