Carwyn Jones
Roedd 2013 yn garreg filltir bwysig yn y broses ddatganoli yng Nghymru, meddai Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn ei neges blwyddyn newydd.

Roedd ymateb Llywodraeth y DU i argymhellion Comisiwn Silk “yn un o bwys, a bydd hyn yn rhoi’r pwerau i ni allu parhau i gyflawni dros bobl Cymru,” meddai.

Mae Carwyn Jones hefyd  wedi tanlinellu ei ymrwymiad i “greu Gwasanaeth Iechyd cynaliadwy”  – er gwaetha’r toriadau sy’n cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU.

“Eleni, gwelwyd cyllideb y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn codi i’r lefel uchaf erioed ac mae buddsoddiad o dros £600 miliwn wedi cael ei sicrhau am y tair blynedd nesaf.”

‘Economi’n gwella’

Wrth gyfeirio at yr economi dywedodd Carwyn Jones bod Cymru’n “dangos arwyddion clir ei bod yn dod allan o’r cynni economaidd gwaethaf mewn cof” a bod nifer y bobl sydd mewn gwaith yng Nghymru “cyn uched ag erioed – mae Cymru’n perfformio’n well na’r DU gyfan.

“Eleni, gwelwyd cynnydd aruthrol mewn buddsoddiad o dramor, dyma ganlyniad ymgyrch galed i ddenu cwmnïau i Gymru.”

Ond, err gwaetha’r ffyniant economaidd, mae’n cydnabod bod bywyd yn galed o hyd i lawer o bobl Cymru.

“Mae costau byw sy’n cynyddu ar y cyd â newidiadau i’r system les yn cael effaith amlwg ar allu pobl i gadw dau ben llinyn ynghyd. Dyma pam, felly y byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i helpu pobl drwy’r cyfnod caled hwn.”

‘Llwyddiannau gwych’

Wrth edrych yn ôl dros 2013 dywedodd ei bod yn flwyddyn o “lwyddiannau gwych” yn y byd chwaraeon yng Nghymru gan gynnwys “cipio teitl Pencampwyr y Chwe Gwlad unwaith eto; y Cymry’n amlwg iawn ar daith y Llewod;  Clwb Pêl Droed Dinas Caerdydd yn sicrhau dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair a Chymro ifanc o Gaerdydd yn dod yn bêl droediwr drutaf y byd.”

“Ar wahân i chwaraeon, daeth pobl o bedwar ban byd i Gaerdydd yn yr hydref, i ddathlu cerddoriaeth y byd yng Ngŵyl WOMEX. Croesawyd y newydd fod cynhadledd NATO yn mynd i gael ei chynnal yn y Celtic Manor – dyma bluen fawr yn het ein gwlad. Ry’n ni’n bwriadu gwneud y mwyaf o’r cyfle euraid hwn i hybu Cymru i’r byd.”

Bu hefyd yn rhoi teyrnged i Nelson Mandela fu farw ar ddechrau’r mis yn 95 oed. Cafodd ei ddisgrifio fel “un o gewri gwleidyddol y byd modern” gan Carwyn Jones.

“Bydd neges Mandela, o heddwch a maddeuant ar draul dial, neges a newidiodd Dde Affrica er gwell, yn cael ei gofio am genedlaethau lawer.”

Ychwanegodd: “Rydym yn onest ac yn agored ynghylch yr heriau sy’n ein hwynebu ond erys ein hymrwymiad cyn gryfed ag erioed. Y flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni’r hyn sy’n bwysig i chi, bobl Cymru.

“Blwyddyn newydd dda i chi gyd.”