Mae dynes 51 oed fu’n reidio beic modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad â char ar gyrion pentref Llan-non ger Aberaeron.

Digwyddodd y ddamwain toc cyn 8.20am bore ma.

“Ar hyn o bryd mae darn o’r A487 ar gau ac yn debygol o aros ar gau nes amser cinio,” meddai’r heddlu. “Mae gyrwyr yn cael eu dargyfeirio.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Ffyrdd Canolbarth Cymru ar 101.