Y doctor - Matt Smith oedd yr unfed ar ddeg
Anghofiwch Sion Corn, fe fydd llawer o bobol wedi cynhyrfu mwy am fod Dr Who newydd ar y ffordd.

Mae disgwyl y bydd miliynau’n gwylio rhifyn Nadolig y gyfres ddrama sy’n cael ei ffilmio gan BBC Cymru yng Nghaerdydd a’r cyffiniau.

Fe fydd y Doctor presennol, yr actor Matt Smith, yn gadael bryd hynny a’r clogyn yn cael ei throsglwyddo i Peter Capaldi, actor sydd hefyd yn un o gefnogwyr selog y gyfres.

A hithau’n 50 oed, mae’r ddrama wyddonias yn dal i ddenu cynulleidfa selog … ac yn gwneud i bobol eraill geisio dyfal u beth yw’r ffws.

‘Trist’ meddai Smith

Mae Matt Smith yn addo stori ddramatig wrth iddo adael.

“Yn amlwg, roedd hi’n eitha’ trist ar y diwedd, pan oedd rhaid gadael, ond dw i’n credu bod gyda ni stori llawn teimlad, ac antur go iawn ynddi,” meddai.