Ysbyty Treforys
Mae Uned Ddamweiniau un o ysbytai mwya’ Cymru’n rhy fach, yn ôl y Prif Weinidog.

Roedd hi’n rhy fach pan gafodd ei hadeiladu, meddai Carwyn Jones wrth addo y bydd hynny’n newid.

Roedd yn ateb honiadau yn y Cynulliad bod un o bob tri chlaf brys yn Ysbyty Treforys yn gorfod aros am fwy na phedair awr cyn cael triniaeth.

Yn ôl un o’r ACau lleol yn Abertawe, Peter Black, mae un o bob deg o’r cleifion yn gorfod aros am fwy nag wyth awr.

Y broblem

“Y broblem yn Nhreforys, i fod yn blaen, oedd bod yr uned yn rhy fach pan gafodd ei adeiladu,” meddai Carwyn Jones.

“Mae Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe Bro Morgannwg wedi cael cais i lunio cynlluniau i ehangu’r uned.”

Yn gynharach y mis hwn, fe gyhoeddodd Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe Bro Morgannwg y bydd £1.3 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn yr uned ddamweiniau yn Nhreforys, i gyflogi mwy o staff a phrynu mwy o welyau.