Georgia Williams
Mae llys wedi clywed sut wnaeth dyn ddenu merch 17 mlwydd oed i dy ei rieni ac yna’i thagu.

Roedd Jamie Reynolds, 23,  wedi llofruddio Georgia Williams ym mis Mai cyn gadael ei chorff mewn coedlan ger Wrecsam. Fe wnaeth o gyfaddef i’w llofruddiaeth yn gynharach y mis hwn.

Mewn gwrandawiad dedfrydu heddiw dywedodd yr erlynydd, David Crigman QC, bod gan Jamie Reynolds “ddiddordeb afiach” mewn pornograffi eithafol sy’n darlunio trais yn erbyn menywod.

Ychwanegodd bod gan Reynolds 16,800 o luniau a 72 o fideos o bornograffi eithafol ar ei gyfrifiadur.

Roedd wedi sgwennu 40 o straeon byrion oedd yn cynnwys ymosodiadau treisgar ar ferched ac roedd wedi ysgrifennu sgript oedd yn disgrifio twyllo a lladd merch. Meddai  David Crigman QC bod llofruddiaeth Georgia Williams wedi cadw’n agos at y sgript honno a bod y llofruddiaeth “yn gwbl fwriadol.”

Roedd Reynolds wedi denu Georgia i dy ei rieni ar 26 Mai ar ôl cynnig tynnu lluniau ohoni. Roedd hi wedi dweud wrth ei rhieni lle’r oedd hi’n mynd y noson honno.

Bu ymdrech fawr gan yr heddlu i ddod o hyd i Reynolds ym mis Mai ar ôl iddo ffoi i’r Alban ar ôl  lladd Georgia Williams  ger ei chartref yn Wellington yn Sir Amwythig, cyn gadael ei chorff mewn coedlan yn Nant-y-Garth ger Wrecsam.

Mae disgwyl i’r barnwr Mr Ustus Wilkie ddedfrydu Reynolds yfory.