Bandiau Cymraeg
Wrth i gerddorion Cymraeg wrthod yr hawl i Radio Cymru chwarae eu cerddoriaeth heddiw mae dadl arall yn ymwneud â’r PRS wedi cythruddo rhai perfformwyr.

Mae’r Performance Rights Society, sy’n talu cerddorion pan mae eu cerddoriaeth yn cael eu chwarae, wedi cyhoeddi y bydd pobol yn cael chwarae cerddoriaeth am ddim adeg priodas y Tywysog William a Kate Middleton.

Fe fydd digwyddiadau bychain sydd ddim yn gwneud elw yn cael chwarae cerddoriaeth am ddim rhwng 22 Ebrill a 6 Mai er mwyn “annog dathliadau’r briodas frenhinol”.

Dywedodd Keith Gilbert, un o gyfarwyddwyr y PRS wrth Golwg 360 eu bod nhw eisiau “helpu cymunedau ar draws y wlad i fwynhau” wrth ddathlu’r Briodas Frenhinol.

Dywedodd Hywel Wigley, ymgyrchydd a sylfaenydd label Kissan wrth Golwg360, bod agwedd y PRS tuag at gerddorion yn “sarhaus”.

“Dwn i ddim faint o aelodau PRS sy’n frenhinwyr. Mi faswn i’n meddwl bod mwy yn weriniaethwyr,” meddai.

“Dydyn nhw ddim yn fodlon ein talu ni cymaint â cherddorion eraill ond maen nhw’n rhoi’r hawl i frenhinwyr chwarae cerddoriaeth am ddim.”

Dywedodd Hefin Jones o’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig ei fod yn credu y gallai PRS feddwl y bydd y cam yn boblogaidd yng Nghymru.

“Mae’n bosib bod y PRS yn ceisio adfer eu henw da yng Nghymru, ond yn anffodus iddyn nhw mae’n bosib y bydd y rhan fwyaf o gerddorion Cymraeg yn anghytuno,” meddai Hefin Jones wrth Golwg 360.

Streic

Daw’r ddadl ddiweddaraf wrth i rai cerddorion Cymraeg ‘streicio’ heddiw gan wrthod yr hawl i Radio Cymru chwarae eu cerddoriaeth.

Maen nhw’n awyddus i’r BBC roi pwysau ar PRS i dalu rhagor nag 49c y munud i gerddorion yr orsaf.

Mae golygydd Radio Cymru eisoes wedi dweud nad oes gan yr orsaf unrhyw reolaeth dros daliadau PRS i gerddorion ond mae’r streic wedi mynd yn ei flaen.

Dywedodd Hywel Wigley y byddai’n rhaid i gerddorion o Gymru adael y PRS os yw “cerddoriaeth Gymraeg am barhau”.

Ei obaith yw y byddai protest y cerddorion heddiw “yn denu cyhoeddusrwydd” a “chodi ymwybyddiaeth”.

“Rhaid parhau gyda’r ymgyrch am well tâl,” meddai, gan alw ar y BBC i “roi pwysau ar y PRS i roi gwell bargen” i gerddorion yng Nghymru.

“Os nad yw’r PRS yn mynd i newid pethau’n syth, bydd rhaid i bawb adael y PRS. Bydd rhaid i ni sefydlu ryw fath o wefan cerddoriaeth ganolog ac yna bydd rhaid i’r BBC ddod aton ni wedyn”, meddai.

‘Anffodus’ meddai’r BBC

Ar ddiwrnod y streic, mae’r BBC yn parhau i ddweud mai “anghydfod rhwng y PRS a’u haelodau yng Nghymru yw hon, nid dadl gyda BBC Radio Cymru”.

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC wrth Golwg360 heddiw ei bod yn “anffodus y gallai gwrandawyr Radio Cymru ddioddef yn sgil protest o’r fath.”

“Fel cefnogwr brwd o’r diwydiant cerddoriaeth Cymraeg, mae’r ffaith nad ydi’r anghydfod yma rhwng y PRS a’i haelodau yng Nghymru wedi ei datrys yn achos pryder i ni,” meddai’r llefarydd.

“Tra ein bod ni’n cydymdeimlo â phryder y cerddorion, mi fyddwn yn parhau i chwarae cerddoriaeth Gymraeg o ffynonellau amrywiol, yn ogystal â sesiynau a recordiwyd gan Radio Cymru.”