Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi heddiw mai mis yn unig fydd gan bobl i wrthwynebu cynigion statudol awdurdodau lleol i ad-drefnu ysgolion.

Dywedodd fod y rheoliadau newydd yn rhan bwysig o gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflymu’r broses o ad-drefnu ysgolion.

Yn y gorffennol roedd gan bobol ddeufis i wrthwnebu cynigion i ad-drefnu ysgolion.

Mae’r Gweinidog hefyd wedi cyhoeddi mai dim ond yn ystod y tymor y caiff yr awdurdodau lleol gyhoeddi eu cynigion a bod yn rhaid iddyn nhw wneud hynny bymtheg diwrnod cyn diwedd y tymor fan bellaf.

Mae’r rheoliadau newydd, sy’n dod i rym heddiw yn dilyn ymgynghoriad a gafodd ei gynnal yn hydref 2010.

“Dw i wedi bod yn pryderu am y broses, a’r amser y mae wedi’i gymryd i wneud rhai penderfyniadau i ad-drefnu ysgolion, ers peth amser,” meddai Leighton Andrews.

“Mae angen inni gael gwared â system sydd, ar ei gwedd bresennol, yn arwain at ansicrwydd i rieni a disgyblion.

“Bydd y rheoliadau newydd sy’n dod i rym heddiw yn sicrhau y bydd pawb sydd â diddordeb mewn cynnig yn cael cyfle i ymateb, ond gobeithio y bydd y ffaith bod llai o amser gan bobl i wrthwynebu yn gallu cyflymu’r broses.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn rhan bwysig o’r gwaith o ddatblygu strwythur ar gyfer ad-drefnu ysgolion gan eu gwneud yn fwy effeithlon a gwella canlyniadau i ddysgwyr yng Nghymru.”