Carwyn Jones
Mae mudiadau iaith wedi galw ar Carwyn Jones i fuddsoddi canran o’r arian a ddaw i Gymru yn sgil Datganiad Hydref y Canghellor mewn prosiectau iaith Gymraeg.

Mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg – grŵp ymbarél sy’n cynrychioli 25 o fudiadau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg – wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am sefydlu canolfannau addysg i oedolion ac i roi cefnogaeth ychwanegol i fudiadau sy’n darparu gweithgareddau cymunedol a gwasanaethau ieuenctid

Mae cyllideb ddrafft bresennol Llywodraeth Cymru’n amlinellu toriadau ar gyfer prosiectau sy’n ymwneud â’r Gymraeg – yn benodol, toriadau o fwy na £1.5 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf.

Gweithredu ar fyrder

Dywedodd Cadeirydd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg, Penri Williams: “Sylweddolwn fod y sefyllfa ariannol bresennol yn heriol, ond nodwn hefyd bod yr arian ychwanegol yma’n cynnig cyfle i gynorthwyo’r Gymraeg trwy gyplysu hynny â’r agenda i wella sgiliau yn ogystal â safon y gofal yn ein gwasanaeth iechyd.

“Dangosodd canlyniadau’r Cyfrifiad bod y Gymraeg yn wynebu argyfwng a bod angen i’r Llywodraeth weithredu ar fyrder i atal cwymp pellach.

“Cawsom gyfarfod adeiladol iawn gyda’r swyddogion yn ddiweddar lle dangoswyd awydd i weithredu ar gynigion ymarferol pe byddai arian ychwanegol ar gael.”

Awgrymiadau

Mae’r mudiadau yn awgrymu defnyddio’r arian tuag at:

  • sefydlu canolfannau hwyrddyfodiaid i ddisgyblion (yn seiliedig ar fodel Gwynedd) yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion ac Ynys Môn;
  • darparu arian i Ganolfannau Cymraeg i Oedolion fel bod modd darparu cyrsiau Cymraeg ychwanegol i athrawon dan hyfforddiant a gweithwyr iechyd
  • cefnogaeth ychwanegol i fudiadau sy’n darparu gweithgareddau cymunedol a gwasanaethau ieuenctid.