Mae’r Post Brenhinol wedi beio’r tywydd gwael diwedd 2010, ar ôl iddynt fethu a chyrraedd eu targedau dosbarthu ar amser yn hanner codau post Cymru.

Mae ffigyrau ar gyfer tri mis ola’r flwyddyn yn dangos fod y gwasanaeth wedi methu a chyrraedd eu targedau mewn pedwar allan o wyth o ardaloedd cod post yng Nghymru.

Eu targed ydi dosbarthu 91.5% o’u post dosbarth cyntaf erbyn y diwrnod canlynol.

Yng Nghasnewydd dim ond 89.7% o’r post dosbarth cyntaf gafodd ei ddosbarthu erbyn y diwrnod canlynol. Llandrindod oedd ail waethaf ar 90.8%, ac Abertawe yn drydydd ar 91.1% .

Dywedodd Llais Defnyddwyr Cymru fod y ffigyrau yn rhai “siomedig”.

“Heb os, fe gafodd tywydd drwg effaith, ond ni allai’r Post Brenhinol feio popeth ar hynny,” meddai Rebecca Thomas o Lais Defnyddwyr Cymru.

“Roedd llawer o bobl yn dal i gael problemau derbyn post ym mis Ionawr. Fe ddylai unrhyw broblem â’r tywydd fod wedi eu sortio erbyn hynny.”