Mae disgwyl i’r Llywodraeth roi rhagor o gefnogaeth i ffermydd gwynt  yn y môr ond mae’n debyg y bydd llai o gymhorthdal ar gyfer prosiectau ynni gwynt ar y tir mewn cynlluniau fydd yn cael eu cyhoeddi heddiw.

Ond, meddai Prif Ysgrifennydd y Trysorlys Danny Alexander y bydd ffermydd gwynt ar y tir yn parhau i chwarae “rôl enfawr” a gwadodd bod y penderfyniad yn ymateb i wrthwynebiad y Ceidwadwyr i felinau gwynt.

Ar hyn o bryd, mae cymhorthdal yn cael ei dalu i gwmnïau sy’n datblygu ffermydd gwynt ar y tir, ond bydd y cynlluniau heddiw yn lleihau’r arian fydd y Llywodraeth yn ei roi o 2015 ymlaen o blaid ffermydd gwynt yn y môr.

Mae ffermydd gwynt ar y tir wedi bod yn creu tensiwn o fewn y Llywodraeth Glymblaid, gyda llawer o Geidwadwyr yn gadarn yn eu herbyn tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud bod eu hangen i gyflawni amcanion amgylcheddol.

Dywedodd Danny Alexander bod y newid o blaid ffermydd gwynt ar y môr yn seiliedig ar “werth am arian”.

Ni fydd y cynlluniau yn effeithio ar ffermydd gwynt sydd eisoes wedi cael caniatâd cynllunio gan gynnwys fferm wynt ym Mrechfa, Sir Gaerfyrddin ac un o ffermydd gwynt mwyaf Prydain yn safle Pen y Cymoedd rhwng Castell-nedd ac Aberdâr ble fydd 76 o dyrbinau yn cael eu codi ar y safle.

Croesawu newid i’r drefn gymhorthdal

Mae Renewable UK wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y Du ar gymorth ariannol i ynni gwynt heddiw.

Mae cynllun isadeiledd y Trysorlys yn dangos faint o gymorth ariannol fydd ffermydd gwynt ar y tir ac yn y môr yn ei gael gan y Llywodraeth rhwng 2015 and 2019.

Yn ôl Renewable UK, mae’r gostyngiad yn y cymorth ariannol ar gyfer ffermydd gwynt ar y môr yn llai na’r hyn oedd wedi ei grybwyll yn nrafft y cynllun a gyhoeddwyd yn yr haf.

Ond meddai dirprwy prif weithredwr Renewable UK bod y gostyngiad mewn cymhorthdal i ffermydd gwynt ar y tir yn ergyd gan mai dyna’r ffordd fwyaf cost effeithiol o gynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Dywedodd Maf Smith: “Rydym yn croesawu’r ffaith fod y Llywodraeth wedi gwrando ar alwad y diwydiant ynni gwynt am lefel mwy realistig o gymorth ariannol ar gyfer ffermydd gwynt ar y môr.

“Yn amlwg, mae unrhyw ostyngiad yn y gefnogaeth i ffermydd gwynt ar y tir yn annerbyniol ac mae’r Llywodraeth wedi addo y byddai unrhyw ostyngiad yn cael ei seilio ar dystiolaeth economaidd yn unig. Gwynt ar y tir yw’r ffurf fwyaf cost-effeithiol o greu ynni adnewyddadwy, felly os ydym am gadw biliau ynni mor isel ag y bo modd, mae angen i ni sicrhau bod y lefel o gefnogaeth yn iawn.

WWF yn galw am sefydlogrwydd polisi

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Jessica McQuade, Swyddog Polisi WWF Cymru, ei bod hi’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gorau i sicrhau y bydd y cynlluniau newydd yn helpu Cymru i newid o danwyddau ffosil i ynni adnewyddadwy.

Dywedodd bod hynny’n “hanfodol er mwyn i weinidogion gyrraedd eu targed o leihau ein hallyriadau o 40% erbyn 2020.”

Meddai Jessica McQuade: “Rydym yn cefnogi’r syniad bod costau trefn cymorthdaliadau llwyddiannus yn lleihau dros amser wrth i dechnolegau aeddfedu, ond mae’n hanfodol i sefydlogrwydd buddsoddiad bod unrhyw newid i lefel y cymorth a roddir i ynni adnewyddadwy wedi’i seilio ar dystiolaeth economaidd.

“Mewn perthynas â gwynt ar y môr, rydym yn croesawu’r ffaith bod y Llywodraeth yn cydnabod bod y sector angen cymorth cynnar i ddenu’r lefelau buddsoddiad.  Ond yn y dyfodol, yr hyn mae’r sector gwynt ar y môr a’r diwydiant ynni adnewyddadwy’n gyfan ei angen yn fwy na dim yw sefydlogrwydd polisi hirdymor.”