Mae saith o bobl gafodd eu harestio ar amheuaeth o anrhefn dreisgar yn Amlwch ddydd Sadwrn wedi eu rhyddhau ar fechniaeth wrth i’r ymchwiliad barhau.

Cafodd un dyn sydd ddim yn lleol anaf pen difrifol yn Stryd Mona, Amlwch, yn ystod oriau man bore ddydd Sadwrn, 26 Chwefror.

Mae’r dyn yn ysbyty Walton, Lerpwl, ar hyn o bryd ac mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Mae’r Heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Tacle’ ar 0800 555 111.