Huw Lewis
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth Cymru i wneud toriadau i’r rhaglen Cymraeg i Oedolion gan rybuddio y bydd yn arwain at lai o siaradwyr Cymraeg.
Fe gyhoeddodd y Prif Weinidog Carwyn Jones a’r Gweinidog Addysg Huw Lewis heddiw y bydd toriad o 8% ar gyfer y rhaglen Cymraeg i Oedolion y flwyddyn nesaf.
Mae’r rhaglen Cymraeg i Oedolion yn darparu cyfleoedd i oedolion ddysgu Cymraeg yn eu cymunedau lleol, yn eu gweithleoedd neu gyda’u teuluoedd, i’w galluogi i ddefnyddio’r iaith.
Wrth gyhoeddi’r toriad dywedodd Llywodraeth Cymru: “Yng ngoleuni’r setliad ariannol presennol, byddai’n anodd amddiffyn y rhaglen Cymraeg i Oedolion rhag unrhyw doriadau.
“Felly, awgrymir y bydd toriad dangosol o 8% ar gyfer y rhaglen Cymraeg i Oedolion. Gan fod y rhaglen Cymraeg i Oedolion yn allweddol i gynyddu nifer yr oedolion yng Nghymru sy’n gallu siarad a defnyddio’r Gymraeg, a gan fod yr adolygiad o’r rhaglen Cymraeg i Oedolion wedi’i gyhoeddi gan gynnwys nifer o argymhellion i wella’r ddarpariaeth, rydym wedi cymryd camau i gadw’r toriadau i isafswm.”
‘Trychinebus’
Ond dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Robin Farrar: “Mae’n newyddion trychinebus. Mae’r Gymraeg yn wynebu argyfwng; mae hynny’n glir o ganlyniadau’r Cyfrifiad. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru? Toriadau i ddarpariaeth sy’n cynhyrchu mwy o siaradwyr, er bod ymgynghoriad y Llywodraeth ei hun wedi argymell mwy o fuddsoddiad.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi methu â blaenoriaethu’r Gymraeg, a dylai Aelodau’r Cynulliad wrthwynebu’r penderfyniad hwn. Bydd pob Aelod Cynulliad sy’n methu â phleidleisio yn erbyn y gyllideb wythnos nesaf yn caniatáu toriadau - toriadau a fydd yn niweidiol i iaith unigryw Cymru.”
Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas: “Mae disgrifio dysgu Cymraeg i Oedolion fel un o brif flaenoriaethau’r Llywodraeth ac yna gwneud toriadau sydd bedair gwaith yn fwy na’r gostyngiad yn y gyllideb yn dangos diystyrwch tuag at oedolion sy’n dysgu’r iaith.”
Argymhellion
Wrth gyhoeddi ei hymateb i’r adolygiad o raglen Cymraeg i Oedolion gan y Grwp Adolygu dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn symud ymlaen i wireddu’r argymhellion a wnaed. Mae’r rhain yn cynnwys:
- lleihau nifer y darparwyr o’r 27 presennol i rhwng 10 a 14;
- ail-ystyried y model cyllido craidd ar gyfer darpariaeth Cymraeg i Oedolion i gyd-fynd â’r adolygiad o’r system cynllunio ac ariannu ôl-16;
- gwneud newidiadau i’r prosesau asesu ac achredu;
- ail-edrych ar y cwricwlwm i sicrhau ei fod yn addas i’r diben; ac
- ymgymryd ag elfennau eraill o’r gwaith datblygu sy’n cynnwys strategaeth farchnata genedlaethol, y defnydd o e-ddysgu, darpariaeth Cymraeg yn y Gweithle a gweithgareddau dysgu anffurfiol.
‘Anwybyddu’r dystiolaeth’
Wrth gyfeirio at yr adolygiad, dywedodd Robin Farrar: “Yn ein hymateb i’r adolygiad, gofynnon ni am newidiadau i’r system, ond rhagor o fuddsoddiad hefyd. Dyna oedd casgliad ymgynghoriad y Llywodraeth ei hunan – y Gynhadledd Fawr. Ond mae’n debyg bod Carwyn Jones wedi anwybyddu’r dystiolaeth yma’n llwyr.”
Mae’r Gymdeithas wedi rhoi tan Chwefror 1 i’r Prif Weinidog ddatgan ei fwriad i weithredu mewn chwe maes polisi er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn tyfu dros y blynyddoedd i ddod. Bydd y grŵp pwyso yn cynnal rali yn Aberystwyth ar Ragfyr 14, blwyddyn ers cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad, “er mwyn atgoffa’r Llywodraeth o’r cyfrifoldeb sydd arnyn nhw i weithredu.”