Ychydig iawn o sgwrsio gwleidyddol oedd rhwng Dafydd Wigley a Ieuan Wyn Jones rhwng 2000 a 2003, wedi i AC Môn ar y pryd ddod yn Llywydd Plaid Cymru.

Ond doedd y diffyg trafod ddim yn creu tensiwn o fewn y grŵp yn y Cynulliad, meddai Dafydd Wigley, a doedd dim dadlau. Pan mae gwleidydd yn ildio arweinyddiaeth ei blaid “rhaid i rywun beidio â disgwyl gyrru’r car o’r sedd gefn,” meddai.

“Unrhyw dro mae arweinydd yn sefyll lawr a rhywun arall yn cymryd drosodd, mae’r sylw i gyd ar yr un sydd wedi ymddeol i weld os yw’n rhoi ei gefnogaeth lawn i’r olynydd. Dw i’n    credu bod Ieuan wedi cael hynny yn dilyn Leanne [Wood] yn cymryd drosodd. R’yn ni wedi gweld hynny yn San Steffan, gyda Paddy Ashdown (o’r Democratiaid Rhyddfrydol).

“Mae hefyd yn beth cwbl naturiol i’r wasg fod yn edrych ar unrhyw wahaniaeth barn, polisi neu gyfeiriad. Un o’r ffactorau pam y gwnes i beidio parhau (yn Aelod Cynulliad) oedd fy mod i’n teimlo ei bod hi’n haws peidio bod yno, ond dim hynny oedd y prif reswm, ond iechyd fy rhieni.”

Bu farw ei dad chwe mis ar ôl ymddeol yn 2003 a’i fam ddwy flynedd yn ddiweddarach. Ond mae’n dal i deimlo ei fod wedi gwneud y penderfyniad cywir. “Yr unig beth dw i’n teimlo ydi y gallwn wedi chwarae fwy o ran ym momentwm yn dilyn etholiad 1999 ac i 2003.”

Roedd “teimlad o euogrwydd o adael y cwch ar adeg dyngedfennol”, meddai.

Mwy gan Dafydd Wigley yng nghylchgrawn Golwg wrth iddo drafod ei bedwerydd hunangofiant, sy’n sôn am ei ddyddiau ola’ yn Aelod Cynulliad a’i waith wedyn yn Nhŷ’r Cyffredin.