Mae Cymdeithas yr Iaith wedi trefnu ras malwod o amgylch y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw.

Dywed y mudiad fod y ras wedi’i drefnu i dynnu sylw at ddiffyg gweithredu Llywodraeth Cymru dros y Gymraeg.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith bydd plant yn chwarae gyda theganau malwod i ddangos pa mor araf mae’r Llywodraeth wedi bod i ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad a ddangosodd bod y Gymraeg yn wynebu argyfwng.

Daw’r newyddion cyn i Aelodau Cynulliad bleidleisio ar 10 Rhagfyr ar gyllideb ddrafft.

Dywed y gymdeithas y bydd y buddsoddiad uniongyrchol yn yr iaith Gymraeg yn cael ei gwtogi o dros £1.5 miliwn, sef toriad o 9.6% mewn termau real, dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod fod “llawer o waith i’w wneud.”

Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn gweithio’n galed i hyrwyddo a hwyluso defnydd yr iaith Gymraeg ond yn cydnabod fod llawer o waith i’w wneud o hyd.  Mae ein Strategaeth yr Iaith Gymraeg yn nodi’r meysydd y mae angen i ni ganolbwyntio arnynt i sicrhau cynaliadwyedd yr iaith.  Fel bob amser, rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r rhai sydd â diddordeb yn yr iaith i sicrhau ei dyfodol.”