Ryan a Ronnie (llun BBC Cymru)
Mae’r darlledwr Hywel Gwynfryn yn gobeithio yn arw bod gan rhywun yn rhywle recordiad neu fwy o Ryan a Ronnie ar ôl i’r BBC gael gwared â llawer o’r deunydd gwreiddiol.

Ar drothwy lansio ei gofiant i Ryan Davies a Ronnie Williams, dywedodd:

“Wrth ymchwilio’r archifau dros y tair blynedd ddiwethaf, siom oedd darganfod cyn lleied o’r deunydd sydd o’r ddau gyda’i gilydd.

“Yn anffodus, fel nifer o archifau’r 60au a’r 70au fe’u dinistrwyd i wneud lle ar silffoedd y Gorfforaeth.

“Fe fyddai’n wych dod ar draws unrhyw recordiad sydd wedi llwyddo i osgoi’r sgip. Gwn y byddai gan yr Archif Ffilm a Theledu yn Aberystwyth ddiddordeb mawr yn y fath wyrth,” meddai.

Y Cofiant

Mae Hywel Gwynfryn wedi ysgrifennu cofiant i Ryan a Ronnie oedd yn gewri adloniant ysgafn a darlledu yng Nghymru yn ystod y chwedegau a’r saithdegau.

Bu farw Ryan ar wyliau yn Efrog Newydd yn 1977 pan oedd ond yn 40 mlwydd oed, ac ar ôl brwydr hir efo alcoholiaeth a phroblemau ariannol fe neidiodd Ronnie i’w farwolaeth oddi ar bont ger Aberteifi yn 1997 ac yntau yn 58 oed.

Bu Hywel Gwynfryn yn byw efo Ronnie a’i wraig Einir yn Rhiwbeina am gyfnod ac mae yn gobeithio y bydd y gyfrol yma yn unioni’r cam a’r canfyddiad anghywir sy’n parhau am allu a doniau Ronnie.

“Mewn gwirionedd,mae’r llyfr yn dangos fod Ronnie, er gwaetha’r alcoholiaeth, wedi actio cryn dipyn ar y radio, mewn ffilmiau yn y theatr ac ar y teledu.

“Mi roedd Ryan yn anhygoel ond doedd o ddim yn ddyn dweud jôcs, ac felly rhaid oedd iddo greu cymeriad i berfformio. Ronnie oedd Ronnie, yn ddiddanwr mwy naturiol.”

Bydd Ryan a Ronnie gan Hywel Gwynfryn yn cael ei lansio yng Nghlwb y BBC, Caerdydd nos Fercher nesaf 4 Rhagfyr.