Casnewydd
Mae tua dwsin o blant uned awtistig yng Nghasnewydd yn bwyta eu cinio yn yr ystafell ddosbarth yn hytrach na’r cantin ers sefydlu Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon yn y ddinas ym mis Medi.

Wedi trefniant rhwng y ddwy ysgol, fe fydd eu rhieni’n cael dewis rhwng hynny, neu ddefnyddio’r cantin ar adeg gwahanol i blant yr ysgol Gymraeg

Yn dilyn cau’r ysgol yma a throi’r safle yn ysgol Gymraeg, mae’r uned yn cael ei rheoli gan athrawon a staff Ysgol Maes Ebbw yng Nghasnewydd sydd ar safle arall.

Mae’n ymddangos eu bod nhw a staff Ysgol Bro Teyrnon wedi penderfynu y buasai caniatau i blant yr uned gael cinio gyda phlant Cymraeg eu hiaith yn achosi dryswch iddyn nhw.

Y llynedd, roedd yr uned awtistig yn rhannu’r un safle â Ysgol Saesneg Brynglas.

Mae rhieni’r plant awstisig yn gandryll bod eu plant yn cael eu cadw ar wahan yn yr ystafell ddosbarth bob amser cinio gan ddweud bod y newid trefn wedi achosi cryn loes i’r plant.

‘Mater i’r ysgolion’

Mae Cyngor Casnewydd yn dweud mai mater i ysgolion Bro Teyrnon a Maes Ebbw ydi’r trefniadau amser cinio.

Mewn datganiad ar y cyd i wefan Wales Online dywedodd penaethiaid ysgolion Bro Teyrnon a Maes Ebbw bod “plant Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon yn cael eu hannog i siarad Cymraeg bob tro gan gynnwys amser chwarae ac felly cytunwyd y dylai’r disgyblion ar y spectrwm awtistiadd gael eu cinio yn y ganolfan hyd nes y bydd pob rhiant wedi mynegi eu dewis.”

Y dewis oedd gadael i’r plant fwyta yn y cantîn ar ôl disgyblion Bro Teyrnon neu yr un pryd yn y dosbarth.

Roedd Prifathrawes Maes Ebbw, Julie Nicholls, wedi anfon llythyr at rieni’r disgyblion awtisig yn dweud bod cyfle iddyn nhw fwyta yn y cantîn am 12.30 ar ôl i ddisgyblion Bro Teyrnon orffen ac mae hi wedi anfon llythyr arall ers hynny yn nodi bod y trefniadau newydd “yn gweithio yn dda iawn”.

AC yn ymateb

Mae Aled Roberts AC yn aelod o grwp traws-bleidiol y Cynulliad ar awstistiaeth.

“Mae gennym ni unedau yn y gogledd ble mae plant Cymraeg eu hiaith a phlant Saesneg eu hiaith o ysgolion gwahanol yn rhannu cyfleusterau.

“Mae’n ymddangos i mi nad ydi Cyngor Casnewydd wedi trefnu beth ddylai’r ddigwydd yn yr achos yma ac mae’r sefyllfa yn gwbl annerbyniol,” meddai gan ychwanegu y dylai’r cyngor ddatrys y sefyllfa ar frys.