Cadair Ddu Birkenhead a enillodd Hedd Wyn wythnosau ar ôl cael ei ladd yn Fflandrys yn 1917 (llun: Parc Cenedlaethol Eryri)
Mae gwahoddiad i’r cyhoedd roi eu barn ar gynlluniau i ddatblygu’r Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, dros y blynyddoedd nesaf.

Gobaith y trefnwyr, partneriaeth o dan arweiniad Parc Cenedlaethol Eryri, yw gwneud cais am tua £2.5 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

“Rhai o’r syniadau sy’n cael eu hystyried gennym yw adfer llofftydd a bwtri’r Ysgwrn i’w cyflwr gwreiddiol, gwella mynediad i bobl anabl i’r safle a defnyddio rhai o adeiladau traddodiadol y safle i ddehongli themâu sy’n gysylltiedig â’r Ysgwrn,” meddai Naomi Jones, Rheolwr Prosiect yr Ysgwrn.

“Cyn cyflwyno’r ceisiadau, rydym yn awyddus i ymgynghori â’r rhai sydd â diddordeb er mwyn sicrhau bod y cynlluniau mor effeithiol â phosib ac er mwyn sicrhau cymaint o gefnogaeth â phosib i’r datblygiad,” ychwanegodd.

Fel rhan o’r ymgynghori, fe fydd noson agored yn Neuadd Trawsfynydd nos Fercher (27 Tachwedd) er mwyn i’r cyhoedd gael gweld y cynlluniau ar gyfer dyfodol yr Ysgwrn a chael sgwrs bellach gyda’r penseiri a’r tîm prosiect.

Mae gwahoddiad i’r rheini na all fynd i’r noson agored gysylltu’n uniongyrchol â Naomi Jones ar Naomi.jones@eryri-npa.gov.uk neu ffonio 01766 770274.

Mae modd trefnu ymweliadau â’r Ysgwrn trwy apwyntiad ar hyn o bryd. Y prif atyniad yno yw Cadair Ddu Birkenhead a enillodd Hedd Wyn wythnosau ar ôl iddo gael ei ladd yn Fflandrys ddydd olaf Gorffennaf 1917.