Heini Gruffudd
Blwyddyn ers ei sefydlu mae Dyfodol i’r Iaith yn cynnal ei gyfarfod blynyddol cyntaf yn Aberystwyth yfory, ac yn gofyn am gefnogaeth “unigolion cefnog” er mwyn gallu dod yn “fudiad mwy proffesiynol.”

Mae’r mudiad amhleidiol yn anelu at ddyblu ei haelodaeth dros y flwyddyn nesaf o 200 i 400, yn y gobaith o gael incwm ddigonol i allu penodi swyddogion llawn amser a pharhau i ymgyrchu dros y Gymraeg.

Ar hyn o bryd mae eu hincwm o £25,000 yn talu am swyddog polisi rhan amser a swyddog datblygu.

Yn ôl Dyfodol ‘cafwyd cefnogaeth ariannol hael gan gwmni Tinopolis a Robat Gruffudd i roi cychwyn i’r mudiad’.

Trafod

Yn ôl Heini Gruffudd, Cadeirydd y mudiad, mae argyfwng y Gymraeg wedi bod yn fater trafod ar ddwy lefel dros y flwyddyn ddiwethaf:

“Yn gyntaf, canlyniadau’r cyfrifiad ac yn ail, cynllunio tai,” meddai “ac rydyn ni wedi ceisio gweithredu er mwyn gwarchod a datblygu ardaloedd traddodiadol Gymreig.”

Angen dylanwadu ar Carwyn

Mae Dyfodol i’r Iaith yn honni bod Carwyn Jones wedi anwybyddu prif gasgliadau’r Gynhadledd Fawr ar yr iaith, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf eleni yn dilyn canlyniadau’r Cyfrifiad.

“Dydw i ddim yn credu fod Carwyn Jones yn cael y cyngor iawn o fewn y Llywodraeth felly mae angen i ni drio dylanwadu ar hyn,” meddai Heini Gruffudd.

“Rydyn ni hefyd am geisio argyhoeddi Carwyn Jones i fynd i’r afael â’r materion pwysig yn ymwneud â’r iaith a chreu polisïau cyhoeddus Cymraeg.

“Mae lle i’r Gymraeg ym Mesur Cynllunio’r Llywodraeth.”

Cynhelir y cyfarfod blynyddol yng Nghanolfan Merched y Wawr, Aberystwyth yfory am 11 y bore gyda’r Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth ac Eifion Bowen, Pennaeth Cynllunio Cyngor Sir Gar yn siarad.