Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion i wrthdrawiad rhwng dau gar yn Sir y Fflint neithiwr pryd y cafodd gwraig leol 39 oed ei lladd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Volvo arian a Vauxhall Corsa coch tuag ugain munud wedi wyth ar ffordd yr A5118 ger Padeswood heb fod ymhell o’r Wyddgrug.

Dywed llefarydd ar ran yr heddlu fod y wraig yn deithwraig yn un o’r ceir a bod dyn 37 oed wedi cael ei arestio ynglyn â’r digwyddiad ar amheuaeth o yrru peryglus.

Roedd y ffordd wedi cau tan 3 o’r gloch y bore yma wrth i’r heddlu ymchwilio i’r digwyddiad.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu drwy ffonio 101.