Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud wrth un o bwyllgorau’r Cynulliad bod derbyn 10% yn llai o nawdd gan Lywodraeth Cymru yn “peri pryder”.

Ac mae wedi rhybuddio y byddai toriad tebyg i’w chyllideb eto’r flwyddyn nesaf yn “andwyol iawn” i’w gwaith.

Mae’r Gweinidog Addysg wedi dweud mae un rheswm dros gwtogi ar gyllideb gwerth £4 miliwn swyddfa’r Comisiynydd, yw am bod £500,000 heb ei wario yn ystod blwyddyn gynta’ ei bodolaeth.

Ond fe ddywedodd Meri Huws wrth Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol bod y tanwario wedi digwydd am bod “ein gwariant yn ystod y flwyddyn gyntaf yn ofalus, a chyda chytundeb Llywodraeth Cymru, edrychom ar greu, nid cronfa wrth gefn, ond cronfa er mwyn sicrhau, pe bai angen i ni gymryd camau o ran achosion cyfreithiol, bod arian gennym”.