Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cael cais i ymyrryd yn y cynllun dadleuol i symud Swyddfa’r Post y Goron Caerfyrddin i’r gangen leol o WH Smith.

Daw’r cais i Meri Huws gynnal ymchwiliad gan nad yw WH Smith yn sôn am yr angen i siarad Cymraeg yn eu hysbyseb am weithwyr newydd.

Cafodd y cais ei wneud gan y saith cynghorydd sir o Blaid Cymru sy’n cynrychioli tre Caerfyrddin a Llangynnwr.

“Er nad yw’r cyfnod ymgynghori i’r cynllun i adleoli yn WH Smith yn gorffen tan 25 Tachwedd, mae’r cwmni wedi bod yn hysbysebu am staff ers pythefnos – sy’n gwneud ffars o’r holl broses,” meddai’r Cynghorydd Alun Lenny.

“Rydym yn arbennig o siomedig nad yw WH Smith yn sôn o gwbl am y Gymraeg yn yr hysbyseb. Ofnwn, felly, nad oes bwriad i gynnig gwasanaeth Cymraeg i gwsmeriaid.”

Polisi Iaith

Yn eu cais i’r Comisiynydd mae’r cynghorwyr yn tynnu sylw at y ffaith bod nifer o’r staff presennol yn Swyddfa’r Post yn siarad Cymraeg, a bod nifer o gwsmeriaid yn dymuno defnyddio’r iaith wrth drin busnes.

Mae hyn yn unol â Pholisi Iaith Swyddfa’r Post, sy’n datgan: Mae Swyddfa’r Post yn mabwysiadu’r egwyddor y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail cydraddoldeb wrth gyflawni busnes cyhoeddus yng Nghymru…Anogir cwsmeriaid yng Nghymru y mae’n well ganddynt gyflawni eu busnes gyda ni yn Gymraeg i wneud hynny. Rydym yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth o’r un safon uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd.

“Er mai cwmni masnachol yw WH Smith, byddem yn dadlau mai gwasanaeth cyhoeddus yw’r Swyddfa’r Post – lle bynnag mae’r lleoliad,” meddai’r Cynghorydd Peter Hughes Griffiths. “Felly, byddai’n rhesymol disgwyl bod y cwmni’n cydymffurfio ag ysbryd y polisi iaith, ac yn ymdrechu i sicrhau bod o leia rhai o’i staff yn siarad Cymraeg.”

Cafodd y cynghorwyr gadarnhad bod Comisiynydd y Gymraeg yn ystyried y cais am ymchwiliad, ac yn addo ymateb buan.

Nid oedd rheolwr WH Smith Caerfyrddin yn fodlon trafod y mater hefo golwg360.