Mae dyn o Wynedd wedi ei garcharu am 10 wythnos gan Lys Ynadon Caernarfon ar ôl ei gael yn euog o amryw o droseddau yn ymwneud a lles anifeiliaid.

Cafodd Evan Lloyd Evans, 68, o Fferm Pencarth Uchaf, Chwilog ger Pwllheli ei gyhuddo o achosi dioddefaint diangen a methu â bodloni anghenion lles 51 o geffylau.

Clywodd y llys fod swyddogion RSPCA wedi ymweld â’r safle ym mis Mehefin 2012 ac archwilio ei anifeiliaid.

O ganlyniad i’r ymweliad cafodd naw o geffylau eu difa gan filfeddyg i atal dioddefaint pellach. Cafodd 50 o geffylau arall eu cymryd o’i ofal ar y sail eu bod yn byw mewn amgylchedd anaddas.

Cafodd Evan Lloyd Evans hefyd ei wahardd rhag cadw neu fod yn berchen ceffylau am 10 mlynedd.

Dywedodd arolygydd gyda’r RSPCA, Mark Roberts: “Roedd yr amodau a welsom yn Cricieth Stud yn warthus ac yn hollol anaddas ar gyfer y merlod oedd yn cael eu cadw yno. Roedd gan lawer ohonynt broblemau difrifol gyda’u traed a phroblemau iechyd eraill.

“Mae hwn yn ddedfryd deg ac yn anfon neges gref i bob perchennog a bridwyr ceffylau bod yn rhaid iddynt roi lles eu ceffylau o flaen popeth arall.”