Lindsay Whittle
Mae llefarydd Plaid Cymru ar gydraddoldeb wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i amddiffyn pobl ifanc rhag cael eu bwlio.

Daeth galwad Lindsay Whittle yn ystod Wythnos Gwrth-Fwlio ac meddai fod hyd at draean o bobl ifanc yn cael eu bwlio a bod yr effaith ar ddioddefwr yn gallu bod yn ddifrifol.

Ychwanegodd fod bwlio yn gallu effeithio ar lwyddiant ysgol a gobeithion gyrfa rhai o’r bobl  ifanc sy’n dioddef.

Meddai Lindsay Whittle: “Mae Plaid Cymru yn benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i greu cymunedau teg, diogel a chynhwysol.

“Mae hyn yn rhywbeth yr wyf i’n pryderu’n fawr amdano, a dyna pam fy mod yn galw am fwy o weithredu gan y llywodraeth i fynd i’r afael â’r math o gam-drin sydd yn tarfu ar fywydau pobl.”

‘Angen monitro maint y broblem’

Dywedodd Lindsay Whittle y dylai Llywodraeth Cymru osod gofyniad ar awdurdodau lleol i weithio gydag ysgolion i fonitro digwyddiadau o fwlio er mwyn dadansoddi maint y broblem a rhannu’r arferion gorau lle cafodd ei thrin yn effeithiol.

Ar hyn o bryd, mae gofyn i ysgolion gael polisi gwrth-fwlio, er nad yw hyn yn cael ei fonitro.

“Yn y gorffennol, rwyf wedi codi pwnc bwlian homoffobig, ac wedi cael nad yw’r broblem yn cael ei chofnodi yn gyson ar hyd a lled Cymru,” meddai Lindsay Whittle.

“Mae’r un peth yn wir am fwlio yn gyffredinol ac y mae’n rhaid newid. Os ydym am fynd i’r afael â phroblem  bwlio, yna mae’n rhaid i ni ei ddeall yn iawn i ddechrau.

“Mae gofyn i bob ysgol yng Nghymru gael polisi gwrth-fwlio. Fodd bynnag, mae’n bwysig fod awdurdodau lleol yn gweithio gydag ysgolion i fonitro maint y broblem a rhannu’r arferion gorau lle cafodd ei thrin yn effeithiol. Mae llawer iawn o waith da yn digwydd yn ein hysgolion, a rhaid i ni ofalu bod eraill yn dysgu o hyn.”