Carwyn Jones yn siarad a disgyblion Ysgol Trelyn
Lansiodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ymgyrch addysg cyfrwng Gymraeg heddiw gyda’r bwriad o godi ymwybyddiaeth o’r iaith ymysg rhieni.

Bwriad yr ymgyrch Byw yng Nghymru: Dysgu yn Gymraeg? yw rhoi gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth am addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg ddwyieithog, yn ôl y Prif Weinidog.

Ac wrth siarad yn Ysgol Gymraeg Trelyn, y Coed-duon, lle bu’n cwrdd â rhieni di-Gymraeg ac yn darllen stori Gymraeg i blant yn y dosbarth derbyn, dywedodd Carwyn Jones ei bod hi’n bwysig bod rhieni’n gwybod beth yw’r opsiynau ar gael i’w plant.

“Dydy rhieni ddim bob amser yn ymwybodol o ysgolion cyfrwng Cymraeg neu maen nhw’n ei chael hi’n anodd cael gwybodaeth am ysgolion o’r fath,” meddai Carwyn Jones. “Rwy’n deall pryderon rhai rhieni ynghylch anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, yn enwedig os nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg.

“Bydd yr ymgyrch hon yn codi ymwybyddiaeth am addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg ddwyieithog fel y gall rhieni wneud eu penderfyniad ar sail yr holl wybodaeth sydd ar gael ar eu cyfer.”

Datblygu sgiliau

Bydd yr ymgyrch tair blynedd yn targedu rhieni sydd ar fin cael plentyn a rhieni sydd â phlant 0-3 oed, ac un nod yn ôl y Llywodraeth yw chwalu rhai o’r rhagdybiaethau am addysg cyfrwng Cymraeg.

Yn ôl y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, roedd hyn yn gam pellach mewn datblygu sgiliau Cymraeg ymysg plant.

“Nod ein hymgyrch yw chwalu rhai o’r rhagdybiaethau am addysg cyfrwng Cymraeg,” meddai Huw Lewis. “Er enghraifft nad oes modd i rieni sydd ddim yn siarad Cymraeg helpu eu plant gyda’u gwaith cartref a’u datblygiad.

“Gall addysg cyfrwng Gymraeg fod yn gyfrwng i roi sgiliau newydd i blant a gall hefyd fod yn brofiad y gallan nhw elwa’n fawr arno.”

Rhoddodd y Prif Weinidog ganmoliaeth i’r cynnydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn arbennig yn ardal Caerffili, lle bu’r twf mwyaf ledled Cymru mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn ystod y deng mlynedd diwethaf.

Awgrymodd hefyd fod yr ymgyrch yma’n ymateb i bobl yn Y Gynhadledd Fawr oedd wedi galw ar y Llywodraeth i adeiladu ar y llwyddiant hwn fel allwedd i sicrhau ffyniant yr iaith.

Cafodd Carwyn Jones ei feirniadu’n hallt gan Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn ogystal â Chymdeithas yr Iaith  yr wythnos diwethaf am beidio â gwneud digon dros y Gymraeg ers cynnal Y Gynhadledd Fawr nôl ym mis Gorffennaf.

‘Gall toriadau arfaethedig danseilio’r fenter’

Dywedodd Josh Parry, is-gadeirydd ymgyrch addysg Cymdeithas yr Iaith:  “Er bod y newyddion hyn yn galonogol, gallai’r toriadau arfaethedig i’r ddarpariaeth feithrin yn Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont danseilio’r fenter hon.

“Os nad yw’r system drochi gynnar yn parhau yn y siroedd hyn a llefydd eraill, bydd llai o blant yn cael etifeddu iaith unigryw Cymru a chael byw yn y Gymraeg felly.

“Hefyd, mae angen i’r Llywodraeth weithredu ar argymhellion ei hadolygiad ei hun o’r system addysg ail iaith, argymhellion sydd, yng ngeiriau’r adroddiad, yn fater o frys. Yn wir, mae angen addysg Gymraeg i bob disgybl yn ein gwlad.”