Un o drenau Arriva Cymru
Ni fydd unrhyw un o drenau cwmni Trenau Arriva Cymru’n rhedeg yfory na dydd Llun.

Mae aelodau o undeb ASLEF yn mynd ar streic yn dilyn ffrae gyda Trenau Arriva Cymru dros gyflogau ac amodau gwaith.

Fe fydd gwasanaethau dydd Mawrth yn cael eu heffeithio hefyd wrth i bethau ddod yn ôl i drefn.

Trenau Arriva Cymru sy’n dal rhyddfraint Cymru, a nhw sy’n gyfrifol am bron y cyfan o’r gwasanaethau ac eithrio’r teithiau i Lundain sy’n cael eu rhedeg gan Virgin yn y gogledd a First Great Western yn y de.

Mae’r cwmni wedi ymddiheuro am yr anghyfleustra a galw eto ar yr undeb i roi’r gorau i weithredu.

Y cefndir

Yn ôl Aslef, roedd 70% o’u gyrwyr trenau wedi pleidleisio o blaid cynnal streic, gan ddweud bod cyflogau Arriva Cymru’n is nag mewn cwmnïau eraill. Mae undeb yr RMT hefyd wedi cynnal streiciau.

Dadl y cwmni yw eu bod wedi cynnig cynnydd cyflog sylweddol i’r gyrwyr a hwnnw’n ddigon i godi’r cyflogau i bron £40,000 am 35 awr o waith.

“R’yn ni wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda gydag undebau ASLEF a RMT ers misoedd mewn ymdrech i ddod i gytundeb terfynol dros gyflogau ac amodau gwaith gyrwyr trênau,” meddai Cyfarwyddwr Gweithrediadau Arriva Cymru, Peter Leppard.

“R’yn ni’n siomedig iawn bod ein cynnig hael wedi cael ei wrthod a bod y gweithredu diwydiannol yn mynd yn ei flaen.”