Parhau mae’r ffrae am ddyfodol swyddfa’r post yng Nghaerfyrddin yn sgil y penderfyniad i’w symud i’r gangen leol o W H Smith.

Mae cynghorwyr lleol yn flin nad yw W H Smith yn sôn am yr angen i siarad Cymraeg yn eu hysbyseb am staff newydd – ac yn galw am ymchwiliad gan Gomisiynydd y Gymraeg.

“Rydym yn arbennig o siomedig nad yw W H Smith yn sôn o gwbl am y Gymraeg yn yr hysbyseb,” meddai’r Cynghorydd Alun Lenny, un o gynghorwyr sir Plaid Cymru dros y dref.

“Ofnwn, felly, nad oes bwriad i gynnig gwasanaeth Cymraeg i gwsmeriaid.”

Yn eu cais i’r Comisiynydd am ymchwilad mae’r cynghorwyr yn tynnu sylw at y ffaith bod nifer o’r staff presennol yn Swyddfa Bost y Goron yn siarad Cymraeg, a bod nifer o gwsmeriaid yn dymuno defnyddio’r iaith wrth drin busnes.

Mae hyn yn unol â Pholisi Iaith Swyddfa’r Post, sy’n datgan: Rydym yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth o’r un safon uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd.

“Cawsom addewid na fyddai cwsmeriaid yn gweld gwahaniaeth rhwng safon y gwasanaeth yn Swyddfa Bost y Goron a’r ‘dewis bartner,’” meddai’r Cynghorydd Peter Hughes Griffiths. “Roedd hyn ymhell cyn cyhoeddi mai W H Smith fyddai’r partner hwnnw. Gan nad yw’r cwmni yn gwneud ymdrech i gyflogi staff sy’n medru siarad Cymraeg, mae’n amlwg y bydd gwahaniaeth yn safon y gwasanaeth i nifer o gwsmeriaid.

“Er mai cwmni masnachol yw W H Smith, byddem yn dadlau mai gwasanaeth cyhoeddus yw’r Swyddfa Bost – lle bynnag mae’r lleoliad. Felly, byddai’n rhesymol disgwyl bod y cwmni’n cydymffurfio â’r polisi iaith, ac yn ymdrechu i sicrhau bod o leia rhai o’i staff yn siarad Cymraeg.”

Cafodd y cynghorwyr gadarnhad bod Comisiynydd y Gymraeg yn ystyried y cais am ymchwiliad, ac yn addo ymateb buan.