Mae Prif Weinidog Cymru wedi ymateb i’r rhai sy’n cwyno nad yw ei ymateb i argyfwng yr iaith yn ddigonol, drwy ddweud bod angen i bawb yng Nghymru ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros y Gymraeg.

Yn dilyn cyhoeddiad Carwyn Jones yn y Senedd ddydd Mawrth yn amlinellu ei ymateb i’w Gynhadledd Fawr ar yr iaith, roedd Cymdeithas yr Iaith a Dyfodol i’r Iaith yn cwyno am ailgylchu hen bolisïau a chyflwyno syniadau “chwerthinllyd”.

Ond mae’r Prif Weinidog yn addo bod mwy i ddod ganddo ar yr iaith yn gynnar y flwyddyn nesaf.

“Gwnaeth y Prif Weinidog hi’n glir yn ei ddatganiad mai dim ond y camau cychwynnol mewn ymateb i ganfyddiadau’r Gynhadledd Fawr yw’r rhain, gyda datganiad arall i’w wneud yn y gwanwyn,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym wedi ymrwymo i gynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn ein cymunedau a gweithleoedd, ond nid yw gweithredu gan y Llywodraeth yn ddigon. Rhaid i unigolion a chymunedau hefyd cymryd cyfrifoldeb drwy ddefnyddio’r iaith bob dydd i sicrhau ei bod yn parhau i ffynnu.”

Beirniadu

Roedd Carwyn Jones wedi cyhoeddi pump o bolisïau i helpu’r Gymraeg gan gynnwys Cynllun Gwelliant Mewnol y Llywodraeth (ar y Gymraeg), paratoi canllawiau i gefnogi TAN20 ac arian i raglenni Technoleg Gwybodaeth Cymraeg.

Ond yn ôl Dyfodol i’r Iaith roedd y Prif Weinidog wedi anwybyddu prif gasgliadau’r Gynhadledd Fawr ar yr iaith, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf eleni yn dilyn canlyniadau siomedig y Cyfrifiad a oedd yn dangos bod yr iaith yn marw yn ei chadarnleoedd.

“Y brif her i’r Gymraeg yn ôl y Gynhadledd yw symud poblogaeth, a bod angen polisïau economaidd, polisïau tai a chynllunio, polisïau addysg a pholisïau datblygu cymunedol i ymateb i’r her,” meddai Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.