Jake Griffiths gydag arweinydd y Blaid Werdd, Caroline Lucas
Yn union fel yr oedd hi’n arfer pweru’r byd, fe ddylai Cymru fod yn “bwerdy” i’r economi gwyrdd, meddai arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru.

Ddoe, roedd Jake Griffiths yn annerch cynhadledd y blaid heddiw, cyn iddo geisio dod yn Aelod Cynulliad gwyrdd cynta’ Cymru.

Fe ddywedodd ei fod eisiau sefyll yn erbyn “toriadau gwario diangen a pheryglus” y Llywodraeth yn Llundain.

Fe fyddai modd creu 50,000 o swyddi yn gwella tai, yn gosod systemau ynni adnewyddadwy ac yn datblygu trafnidiaeth gyhoeddus, meddai Jake Griffiths.

“Mae yna ddiffyg gweledigaeth strategol tymor hir wedi bod, gydag agwedd mynd a dod i swyddi, yr amgylchedd a chreu cymdeithas decach.”