Ar ôl bod yn ymchwilio i’r ffaith fod neges ffôn awtomatig Cyngor Torfaen yn uniaith Saesneg ers mis Awst, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dod i’r casgliad heddiw bod eu Cynllun Iaith wedi ei dorri.

Bu’r neges ffôn yn weithredol ers mis Gorffennaf, a’r cyngor sir yn dweud eu bod yn treialu’r lein Saesneg er mwyn cywiro diffygion cyn cyflwyno’r neges yn Saesneg.

Bythefnos yn ôl roedd cyn-athrawes o’r ardal yn cwyno wrth gylchgrawn Golwg bod y cyngor yn hel esgusodion.

“Mae problemau o hyd efo cael gwasanaeth yn Gymraeg gan y cyngor,” meddai Yvonne Balakrishnan, “ond toes yna ddim problemau i’w gael o yn y Saesneg.”

Argymhellion y Comisiynydd

Meddai Comisiynydd y Gymraeg mewn datganiad heddiw: ‘Daw adroddiad yr ymchwiliad i’r casgliad bod y Cyngor wedi methu â chydymffurfio â chymalau yn ei Gynllun Iaith trwy benderfynu i lansio’r gwasanaeth yn uniaith Saesneg, trwy’r oedi estynedig cyn darparu gwasanaeth Cymraeg a thrwy’r diffyg ystyriaeth a thrafodaeth am y gwasanaeth Cymraeg ar lefel uwch o fewn y Cyngor.

‘Mae’r adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion i’r Cyngor er mwyn iddo adfer y sefyllfa a chydymffurfio â’i Gynllun Iaith yn y dyfodol:

  • Yn dilyn lansio’r gwasanaeth ffôn Cymraeg dylid sicrhau bod y gwasanaeth Cymraeg yn cael ei hyrwyddo a monitro lefelau defnydd o’r gwasanaeth;
  • Cynnal adolygiad o drefniadau asesu effaith polisïau a mentrau newydd ar y Gymraeg;
  • Adolygu’r Canllawiau Cydraddoldeb a Chaffael er mwyn sicrhau eu bod yn glir ac yn gadarn o ran ystyried y Gymraeg yn y broses tendro;
  • Cymryd camau i godi ymwybyddiaeth y gweithlu o’r trefniadau diwygiedig;
  • Sicrhau bod trefniadau goruchwylio cadarn mewn lle i sicrhau gweithrediad effeithiol o Gynllun Iaith Gymraeg y Cyngor.;
  • Sicrhau bod adnoddau digonol ar gyfer darparu yn Gymraeg yn unol â’r Cynllun Iaith.’

Cymdeithas yr Iaith

Tra’n falch fod y Comisiynydd wedi canfod Cyngor Torfaen yn euog o dorri eu Cynllun Iaith, mae Cymdeithas yr Iaith yn edliw “ei fod wedi cymryd misoedd o gwyno a chael cyfarfodydd cyn i’r Comisiynydd benderfynu cynnal ymchwiliad”.