Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd eu biliau nhw’n codi 2.7% ar gyfartaledd, i £11.

Ond mae’r cynnydd yn is na’r cyfartaledd ar draws Cymru a Lloegr, sef cynnydd o 4.6% i £365.

Bydd cwsmeriaid cwmni Severn Trent yng Nghymru yn gorfod talu £13 yn ychwanegol, sef cynnydd o 4.3%.

Bydd cynnydd 5%, neu £7, i filiau Dŵr Dyffryn Dyfrdwy, sy’n darparu dŵr ar gyfer cwsmeriaid yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Cyhoeddodd Ofwat yn 2009 y byddai prisiau biliau dŵr yn codi gyda chwyddiant am bum mlynedd rhwng 2010 a 2015.

Dywedodd Ofwat y bydd £22 biliwn o’r arian yn cael ei ail-fuddsoddi yn y system ddŵr.

“Mae pobol yn gallu siopa ar y fargen orau ar sawl peth, ond nid dŵr. Ein swyddogaeth ni yw rheoli’r pris ar eu rhan nhw,” meddai prif weithredwr Ofwat, Regina Finn.

Dywedodd y byddai’r cynnydd mewn prisiau yn “o fudd go iawn i gwsmeriaid. Fe fydd cyflenwad dŵr cwsmeriaid yn cael ei warchod yn well”.