Jimmy Savile
Ysbyty Brenhinol Caerdydd yw un o’r ysbytai sy’n rhan o’r ymchwiliadau i gam-drin gan y cyflwynydd teledu Jimmy Savile.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Norman Lamb ddoe bod yr ysbyty wedi cael ei ychwanegu at y rhestr lle mae’r heddlu’n ymchwilio.
Ond mae’n ymddangos mai dim ond un honiad sydd wedi ei wneud ynglŷn â’r sefydliad a oedd, ar un pryd, yn brif ysbyty’r brifddinas.
Adolygu’r dystiolaeth
Fis diwethaf, dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt ei fod wedi gofyn i’r heddlu adolygu’r holl dystiolaeth oedd yn y cysylltu ysbytai â Savile.
Mae 13 o ymddiriedolaethau ysbyty ar hyn o bryd o dan ymchwiliad.
Yr ysbytai hynny yw:
– Ysbyty Cyffredinol Leeds( gan gynnwys Ysbyty St James gan ei fod yn rhan o un ymddiriedolaeth)
– Ysbyty Stoke Mandeville
– Ysbyty Broadmoor
– Ysbyty Seiciatrig High Royds
– Ysbyty Dewsbury
– Ysbyty Great Ormond Street
– Ysbyty Moss Side
– Ysbyty Exeter
– Ysbyty Portsmouth
– Ysbyty Sant Catherine yn Birkenhead
– Ysbyty Brenhinol Caerdydd
– Ysbyty Rampton
– Ysbyty Saxondale.
Ychwanegodd Norman Lamb bod ymchwiliad arall hefyd wedi ei orchymyn ynglŷn â Hosbis Wheatfields yn Leeds .
Y cefndir
Y gred yw bod Jimmy Savile , a fu farw’n 84 mlwydd oed yn 2011, wedi cam-drin cannoedd o blant yn rhywiol tros y blynyddoedd. Roedd ganddo ystafell wely yn Ysbyty Stoke Mandeville , swyddfa a lle i fyw yn Broadmoor a mynediad eang i Ysbyty Cyffredinol Leeds.
Yn dilyn yr holl honiadau a wnaed yn ei erbyn, roedd yr heddlu wedi lansio Ymgyrch Yewtree, sydd hefyd yn edrych ar honiadau yn erbyn pobol a oedd yn gysylltiedig â Jimmy Savile a phobol adnabyddus eraill.
Mae tua pedwar o gwynion eraill wedi eu gwneud am Jimmy Savile gan bobol yng Nghymru.