Awyren yn cael tanwydd wrth hedfan (Llu Awyr UDA
Mae’r cwmni sy’n berchen ar ffatri awyrennau fawr Brychtyn yng ngogledd Cymru wedi colli’r gystadleuaeth am gytundeb gwerth £21.6 biliwn i adeiladu awyrennau newydd i lu awyr yr Unol Daleithiau.

Cwmni Americanaidd Boeing sydd wedi cael y gwaith o adeiladu bron i 200 o awyrennau anferth – tanceri awyr sy’n cario tanwydd ar gyfer awyrennau eraill.

Roedd cwmni EADS, perchnogion BAE ym Mrychtyn, wedi bod yn cystadlu am ddegawd am y cytundeb gyda nifer o arbenigwyr yn y maes yn credu mai nhw fyddai’n llwyddo.

Ond  gyda Boeing yn adeiladu’r awyrennau, fe fydd yna ddegau ar filoedd o swyddi’n cael eu creu yn nhalaith Washington a Kansas.

Fe ddywedodd Dirprwy Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, William Lynn, mai Boeing oedd “yr enillydd clir.”

Yn ôl y Pentagon, roedd y ddau gynnig yn cwrdd â phob un o’r 372 o ofynion angenrheidiol ond roedd pris Boeing fwy nag 1% yn rhatach nag un EADS.

Mae’r Unol Daleithiau’n chwilio am awyrennau newydd gan fod y tanceri awyr presennol yn hedfan ers 1965.